Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod drafft o Reoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 ("y Rheoliadau Terfynau Ffioedd"). Bydd y rheoliadau hyn pennu'r terfynau ffioedd uchaf y caniateir eu codi ar 'berson cymhwysol' sy'n ymgymryd â 'chwrs cymhwysol' addysg uwch at ddibenion Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ('Deddf 2022')  Rwy'n bwriadu nodi personau cymhwysol a chyrsiau cymhwysol at y diben hwn mewn offeryn statudol pellach i'w wneud fis nesaf.

Y prif fwriad y tu ôl i'r offerynnau statudol hyn yw sicrhau bod capiau ffioedd dysgu yn parhau i fod yn berthnasol o flwyddyn academaidd 2027/28 ymlaen, ar ôl gweithredu Deddf 2022 yn llawn a diddymu'r drefn reoleiddio bresennol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2025 ysgrifennais at yr aelodau yn cadarnhau fy mwriad i gynyddu'r capiau ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, ac yn ddiweddar rwyf wedi gwneud Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 i ddarparu ar gyfer y cynnydd hwn. Yn y datganiad hwnnw, cadarnheais hefyd y bydd y capiau ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28 yn cael eu hystyried yn nhymor nesaf y Senedd.

Mae'r Rheoliadau Terfynau Ffioedd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd 2027/28 i alluogi Medr i sefydlu'r gofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru (fel sy'n ofynnol gan Ran 2 o Ddeddf 2022) ac i gynnwys categori terfyn ffioedd ar gyfer darparwyr addysg uwch.