Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 gerbron y Senedd.

Yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Rheoliadau hyn yn uwchraddio'r ffigurau ariannol yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 i sicrhau bod y cynllun sydd yn ei le ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 yn adlewyrchu codiadau yng nghost byw.  Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn cadw hawliadau ar gyfer 280,000 o aelwydydd ledled Cymru sy'n dibynnu ar y cymorth hwn.

Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y rheoliadau ar ddechrau'r flwyddyn newydd.