Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 gerbron y Senedd.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Rheoliadau hyn yn uwchraddio'r ffigurau ariannol yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 i sicrhau bod y cynllun ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 yn adlewyrchu’r cynnydd mewn costau byw. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y 285,000, bron, o aelwydydd ag incwm isel ledled Cymru sy'n dibynnu ar y cymorth hwn yn parhau i gael yr hawl hwnnw drwy’r cynllun.

Yn ogystal, cynigir diwygiad i roi cymorth i wladolion Affganistan a gwladolion y DU o Affricanistan o ganlyniad i gwymp Llywodraeth Affganistan. Bydd hyn yn caniatáu iddynt fod yn gymwys i gael eu cynnwys yng nghynllun awdurdod lleol a bod yn gymwys i gael gostyngiad os ydynt yn bodloni'r gofynion eraill.

Gwneir diwygiad pellach i wneud darpariaeth ar gyfer sut y mae taliadau iawndal a wneir gan Weinidogion yr Alban mewn perthynas ag achosion o gam-drin plant hanesyddol i'w hystyried wrth benderfynu a ydynt yn gymwys i gael gostyngiad , a swm y gostyngiad.  Bydd hyn yn sicrhau nad effeithir yn negyddol ar unrhyw ymgeisydd sy'n byw yng Nghymru oherwydd eu bod wedi cael taliad iawndal.

Yn olaf, rydym wedi dileu cyfeiriadau diangen at bobl o dan 65 oed o ran lwfans personol pensiynwyr. Bydd hyn yestyn y gyfradd uwch o lwfans personol i bob pensiynwr yng Nghymru.  

Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y Rheoliadau ar ddechrau'r flwyddyn newydd.