Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau drafft Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 gerbron y Senedd.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Rheoliadau hyn yn uwchraddio’r ffigurau ariannol yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013, i sicrhau bod y cynllun ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 yn adlewyrchu’r cynnydd mewn costau byw. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y 270,000, bron, o aelwydydd ag incwm isel ledled Cymru sy’n dibynnu ar y cymorth hwn yn parhau i gael yr hawl honno drwy’r cynllun.

Yn ogystal, cynigir diwygiad i roi cymorth i wladolion Wcreinaidd o ganlyniad i’r argyfwng ffoaduriaid a achosir gan ryfel Rwsia ac Wcráin. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gymwys i wneud cais am gymorth.

Mae diwygiad pellach yn sicrhau nad effeithir yn negyddol ar unrhyw ymgeisydd sy’n byw yng Nghymru ac sy’n lletya person o Wcráin o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae’r newid yn gwneud darpariaeth fel nad effeithir ar gais y lletywr oherwydd ei gynnig i roi cymorth i bobl o Wcráin.

Yn olaf, rydym wedi dileu’r eithriad i ddinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) sydd bellach yn destun rheolaeth fewnfudo.

Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y Rheoliadau ddechrau’r flwyddyn newydd.