Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 gerbron y Senedd.

Yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd, bydd y Rheoliadau hyn yn uwchraddio'r ffigurau ariannol yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013. Nod hyn yw sicrhau y bydd y cynllun a fydd ar waith ar gyfer 2024-25 yn adlewyrchu'r cynnydd mewn costau byw.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn cadw hawliau ar gyfer bron i 261,000 o aelwydydd incwm isel ledled Cymru sy'n dibynnu ar y cymorth hwn.

Yn ogystal, rydym yn awyddus i sicrhau nad effeithir yn negyddol ar unrhyw geisydd sy'n byw yng Nghymru oherwydd ei fod wedi cael ôl-daliad rhiant gweddw neu daliad cymorth profedigaeth yn ôl-weithredol.  Cynigir felly y bydd diwygiad canlyniadol yn cael ei wneud er mwyn diystyru'r taliad a geir wrth gyfrifo cyfalaf ceisydd o dan y cynllun.

Bydd diwygiadau pellach a gynigir yn sicrhau bod ceiswyr yng Nghymru yn cael eu trin yn yr un modd ar gyfer unrhyw daliad digollediad neu daliad cymorth a wneir mewn cysylltiad â methiannau system Horizon Swyddfa'r Post.  Bydd taliadau digollediad sy'n ymwneud â'r cynllun Taliad Niwed Drwy Frechiad neu'r Ymchwiliad i Waed Heintiedig hefyd yn cael eu diystyru wrth gyfrifo cyfalaf ceisydd o dan y cynllun.

Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y Rheoliadau ddechrau'r flwyddyn newydd.