Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau drafft Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 gerbron y Senedd.
Os byddant yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, bydd y Rheoliadau hyn yn uwchraddio’r ffigurau ariannol yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013. Bydd hyn yn sicrhau bod cynlluniau yn parhau ar waith ar gyfer blwyddyn ariannol 2026–27 ac y byddant wedi’u huwchraddio i adlewyrchu newidiadau mewn costau byw. O ganlyniad, bydd bron i 256,000 o aelwydydd incwm isel ledled Cymru yn parhau i gael cymorth.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn ymgorffori newidiadau diweddar i’r system les, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer trefniadau newydd o ran absenoldeb a thâl gofal newyddenedigol. Maent hefyd yn estyn y rheol sy’n caniatáu i gais am Gredyd Cynhwysol fodloni’r Prawf Preswylfa fel Arfer at ddibenion budd-dal tai i Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Bydd diwygiadau pellach yn sicrhau bod pobl sydd wedi’u dadleoli o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem yn gymwys i wneud cais am ostyngiad treth gyngor.
Yn ogystal, mae’r Rheoliadau yn gwarantu na fydd unrhyw geisydd sy’n byw yng Nghymru yn cael ei roi o dan anfantais oherwydd ei fod wedi cael taliad o dan y Cynllun Gwneud Iawn i Gyn-filwyr LHDT neu’r Cynllun Digollediad Camweinyddu Cyfiawnder.
Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y Rheoliadau ddechrau’r flwyddyn nesaf.
