Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n gosod tair set o reoliadau gerbron y Senedd fydd yn nodi'r camau nesaf yn nhaith Cymru tuag at allyriadau carbon sero net erbyn 2050. 

Mae'r rheoliadau hyn yn disgrifio'n hymrwymiadau cyfreithiol i leihau allyriadau, yn cryfhau ein fframwaith cyfrifyddu carbon ac yn sicrhau bod Cymru'n parhau i arwain gydag uniondeb ac uchelgais wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Dyma'r rheoliadau, fydd yn cael eu gosod cyn y bleidlais a gynhelir 2 Rhagfyr 2025:

  • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllideb Carbon) (Cymru) 2025 – sy'n pennu'r targed lleihau allyriadau ar gyfer Cyllideb Garbon 4 (2031–2035).
  • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025 – pennu'r terfyn credyd carbon ar gyfer Cyllideb Carbon 3 (2026–2030).
  • Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025 – diweddaru'r diffiniad o uned garbon i adlewyrchu datblygiadau mewn cytundebau hinsawdd rhyngwladol.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru geisio ac ystyried cyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd cyn gosod rheoliadau i bennu cyllideb garbon neu derfyn credyd carbon mewn cyfraith. Ar 14 Mai 2025, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ei gyngor i Lywodraeth Cymru ar Gyllideb Carbon Cymru 4. Rwyf am gydnabod cefnogaeth a gwaith craffu'r Pwyllgor wrth helpu i lunio ymagwedd Cymru at sero net.

Yn eu cyngor, argymhellodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd y dylai Cyllideb Garbon 4 anelu at ostyngiad cyfartalog yn allyriadau net Cymru o 73% o'i gymharu â lefelau'r 1990au. Mae hyn yn gyson â'n targedau statudol: gostyngiad o 89% erbyn 2040 a 100% – sero net – erbyn 2050. Mae'r rhain yn dargedau uchelgeisiol, ond maent yn angenrheidiol, yn gyraeddadwy, ac yn adlewyrchu difrifoldeb yr her sy'n ein hwynebu.

Eglurodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ymhellach ar 24 Gorffennaf 2025 ei argymhelliad y dylid gosod y terfyn gwrthbwyso ar gyfer Cyllideb Garbon 3 ar 0%, sy'n golygu bod yn rhaid bodloni'r gyllideb yn llwyr drwy weithredu domestig yng Nghymru. Mae hyn yn cadw at drywydd Cyllideb Carbon 2, ac yn sicrhau bod ein buddsoddiad yn dod â budd uniongyrchol i gymunedau yng Nghymru. 

Mae'r trydydd rheoliad yn diweddaru Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018. Mae'r diffiniad presennol o uned carbon yn seiliedig ar eiriad Protocol Kyoto ac mae bellach wedi dyddio. Mae'r gwelliant a gynigir yn adlewyrchu'r diffiniad diweddaraf o uned garbon a geir yn Erthygl 6 o Gytundeb Paris. Bydd y newid hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddefnyddio unedau carbon sy'n cael eu cydnabod trwy'r byd o dan Gytundeb Paris, os oes angen, tra'n parhau'n dryloyw. Mae hyn unwaith eto yn adlewyrchu cyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar 24 Gorffennaf 2025.

Mae cyllidebau carbon Cymru yn gyson â'r safonau rhyngwladol. Maent yn gosod cap ar yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir yn nhiriogaeth Cymru dros gyfnod o bum mlynedd, gan ein helpu i droi nodau hirdymor yn weithredu mesuradwy. Maent yn cefnogi cynllunio ar draws y llywodraeth, yn cryfhau atebolrwydd ac yn sicrhau ein bod yn parhau ar y trywydd i gyrraedd ein targed o allyriadau carbon sero net yng Nghymru erbyn 2050.

Mae'r rheoliadau hyn yn fwy nag offerynnau technegol. Maent yn ddatganiad o fwriad – y bydd Cymru'n parhau i weithredu'n benderfynol ac yn deg mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Dyma'r offer ar gyfer rheoli risgiau yn y dyfodol, sbarduno cynnydd a chefnogi cyflawni ar draws y llywodraeth a chymdeithas.

Mae creu swyddi gwyrdd a thwf economaidd cynaliadwy yn ganolog i waith y Llywodraeth hon. Mae'r blaenoriaethau hyn, ynghyd â'n hymrwymiadau cyfreithiol i genedlaethau'r dyfodol, cydraddoldeb a phartneriaeth gymdeithasol, yn llywio'r ffordd rydym yn gweithredu dros yr hinsawdd. Yn ogystal ag ymwneud â'r dasg bwysig o leihau allyriadau, mae mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn golygu hefyd creu cyfleoedd, gwella iechyd y cyhoedd, ac adeiladu Cymru decach, gwyrddach a chryfach. 

Drwy bennu cyllidebau carbon uchelgeisiol, moderneiddio dulliau cyfrifyddu carbon a bod yn dryloyw, gallwn ennyn hyder buddsoddwyr, cefnogi arloesedd a chreu swyddi crefftus ledled Cymru – gan sicrhau pontio cyfiawn tuag at sero net sy'n sicrhau gwelliannau parhaol i bobl, cymunedau ac economi Cymru.