Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol (Cymru) 2026 i weithredu cam cyntaf y System Tracio Gwastraff yn Ddigidol (DWTS) yng Nghymru.
Yn amodol ar y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau, byddant yn sefydlu system electronig (digidol) ar gyfer tracio symudiadau gwastraff a reolir. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion gorfodol ar weithredwyr safleoedd trwyddedig lle derbynnir gwastraff a reolir, i gofnodi gwybodaeth am y gwastraff hwnnw a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhoi yn y system ddigidol gan ddefnyddio meddalwedd gymeradwy. Nid yw'r Rheoliadau yn cynnwys gwastraff masnachol a dderbynnir mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, gan y bwriedir cynnwys y rhain mewn rheoliadau newydd yn ystod yr ail gam.
Bydd gwastraff yn cael ei dracio'n ddigidol ledled y DU. Bydd pob gwlad yn gwneud ei rheoliadau ei hun, ond byddant yn cyd-fynd yn agos.
Nod y mesurau yn y Rheoliadau hyn yw lleihau troseddau gwastraff a chefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gylchol. Maent hefyd yn cyflawni ymrwymiad yn ein Strategaeth Mwy nag Ailgylchu i gyflwyno system orfodol ar gyfer tracio gwastraff yn electronig i dracio ble mae gwastraff yn mynd yn y pen draw.
Cynhaliodd y DU a'r Llywodraethau Datganoledig ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion yn 2022. Mae trafodaethau â rhanddeiliaid wedi parhau drwy ymchwil defnyddwyr a gweithgorau sefydledig yn y diwydiant wrth i'r gwaith o ddatblygu'r gwasanaeth digidol barhau, a bydd hyn yn llywio offerynnau statudol yn y dyfodol wrth i ofynion gael eu hehangu i weithredwyr eraill y diwydiant. Bydd canllawiau ar gyfer gweithredwyr mae'r offeryn hwn yn effeithio arnynt yn cael eu cyhoeddi, a’u hadolygu a’u diweddaru yn ôl yr angen.
Mae'r diwydiant gwastraff yn cynnwys nifer fawr o weithredwyr cymhleth. Mae'r rhain yn gweithio ledled y DU mewn amrywiaeth eang o sectorau sydd â lefelau amrywiol o allu digidol. Er mwyn datblygu gwasanaeth sefydlog, effeithiol a hawdd ei ddefnyddio, mae angen inni ei ddatblygu fesul cam. Mae hyn yn dechrau drwy greu sylfaen gadarn, sy'n darparu rhai o'r manteision a ragwelir, gydag agweddau ychwanegol wedyn yn cael eu hychwanegu, wrth inni ddysgu drwy brofi elfennau craidd y gwasanaeth, er mwyn symud tuag at system fwy cyflawn ar gyfer tracio gwastraff yn ddigidol o ddechrau i ddiwedd y broses. Ar ôl asesu'r opsiynau a'r arferion gorau rhyngwladol, bydd y cam cyntaf i gael ei gyflwyno gan y Rheoliadau hyn yn canolbwyntio ar safleoedd derbyn gwastraff sy'n mewnbynnu data am y gwastraff maent yn ei dderbyn.
Bydd ail gam, wedi'i gynllunio i'w gyflawni drwy reoliadau yn y dyfodol, yn gweld gwastraff a dderbynnir mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, a symudiadau gwastraff o safleoedd lle mae'r gwastraff yn cael ei gynhyrchu i safleoedd derbyn gwastraff, yn cael ei dracio'n ddigidol, gan gynnwys pan fydd y gwastraff yn cael ei gludo.
Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol cysylltiedig ar gael yma.
Edrychaf ymlaen at drafod ag Aelodau'r Senedd yn ystod y drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar y Rheoliadau.
