Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, caiff y Cod Trefniadaeth Ysgolion drafft ei roi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.  

Mae Deddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod. Mae'r Cod yn gosod gofynion y bydd angen i gyrff perthnasol (Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a hyrwyddwyr eraill) weithredu yn unol â hwy. Mae'n cynnwys y canllawiau statudol y mae'n rhaid i gyrff perthnasol roi sylw dyledus iddynt ac mae'n gosod y cyd-destun polisi, yr egwyddorion cyffredinol a'r ffactorau y dylai'r rhai sy'n cyflwyno cynigion i ad-drefnu ysgolion a'r rhai sy'n gyfrifol am benderfynu ar gynigion eu hystyried.

Daeth argraffiad cyntaf y Cod i rym ar 1 Hydref 2013. Ar ôl mwy na tair blynedd o weithrediad, cynhaliwyd adolygiad ohono. Nod mwyafrif y newidiadau yw rhoi eglurder lle'r oedd angen hynny.  Mae newidiadau eraill yn ceisio cryfhau'r Cod, drwy ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau ymgynghori gael eu cyhoeddi ar ddiwrnod ysgol, er enghraifft.  Y newid mwyaf arwyddocaol yw cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Mae rhestr o'r newidiadau sylweddol ar gael yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Cod.    

Cyn cyhoeddi neu ddiwygio'r Cod, mae gofyn i Weinidogion Cymru ymgynghori. I'r perwyl hwnnw, cynhaliwyd ymgynghoriad 14 wythnos o hyd o 30 Mehefin hyd 30 Medi 2017.  Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf.  

Yn awr, caiff y Cod ei roi gerbron y Cynulliad am gyfnod o 40 diwrnod ac yna disgwylir iddo ddod i rym ar 1 Tachwedd 2018.