Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yr wythnos ddiwethaf cafodd yr ystadegau ‘Cyflawniad Academaidd a'r Hawl i Brydau Ysgol am Ddim, 2014/15’ eu cyhoeddi. Maent yn dangos ein bod yn parhau i gyflawni cynnydd da o safbwynt cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y disgyblion hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys ymhob Cyfnod Allweddol.

Fy uchelgais yw gwaredu anghydraddoldebau o ran deilliannau dysgwyr fel bod gan bob dysgwr, beth bynnag y bo ei gefndir, ddyheadau uchel ynghyd â chyfle cyfartal i gyflawni’r dyheadau hynny.

Ym mis Gorffennaf 2013 gwnes bennu targed y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi er mwyn lleihau'r bwlch o ran cyrhaeddiad ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen rhwng y rhai sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys 10 y cant erbyn 2017. Mae hyn gyfwerth â gwahaniaeth absoliwt o 16.5 pwynt canran.

Rydym wedi cyflawni'r targed hwn, ac yn wir wedi rhagori arno, dair blynedd yn gynnar. Mae lefelau cyrhaeddiad y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys wedi gwella, ond rydym yn awyddus i bennu targedau newydd er mwyn gallu canolbwyntio ar wella canlyniadau disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Rwyf felly'n hapus i gyhoeddi ein bod wedi datblygu targed mwy heriol er mwyn parhau i gyflawni gwelliannau.

  1. Targed cenedlaethol newydd o 80 y cant o ddysgwyr 7 oed sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn cyflawni'r lefel ddisgwyliedig ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, fel y'i mesurir gan ddangosydd y Cyfnod Sylfaen, erbyn 2017
  2. Targed cenedlaethol newydd er mwyn cau'r bwlch rhwng lefelau cyrhaeddiad dysgwyr 7 oed sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy'n cyflawni'r lefelau disgwyliedig ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, fel y'i mesurir gan Ddangosydd y Cyfnod Sylfaen 34 pwynt canran erbyn 2017. Mae hyn gyfwerth â gwahaniaeth absoliwt o 12 pwynt canran.

Bydd ychwanegu targed cenedlaethol o ran cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn sicrhau bod unrhyw leihad i'r "bwlch" cyrhaeddiad yn adlewyrchiad gwirioneddol o welliant cyffredinol.

Yn ogystal, trwy bennu targed mwy heriol ar gyfer y gwahaniaeth o ran cyrhaeddiad byddwn yn sicrhau bod y gwaith yn canolbwyntio ar wella canlyniadau disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, a hynny'n gyflymach na chanlyniadau'r rhai nad ydynt yn gymwys.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â'r consortia ac â swyddogion er mwyn ystyried ymhellach y rhesymau am unrhyw wahaniaethau mawr neu gynyddol o ran cyrhaeddiad o fewn awdurdodau lleol, a phennu arferion da o blith yr awdurdodau lleol a'r ysgolion sy'n perfformio'n dda.