Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi i flwyddyn gyntaf cyfnod pontio dwy flynedd Grant Byw'n Annibynnol Cymru ddod i ben, meddyliais y byddai nawr yn gyfle da i roi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am y cynnydd hyd yma.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r egwyddor o fyw'n annibynnol fel bod pobl anabl, ble bynnag yng Nghymru y maent yn byw, yn cael cefnogaeth briodol i gyflawni eu canlyniadau llesiant o fewn eu cymunedau. O ganlyniad, mae mwyafrif y bobl anabl yn cael cymorth i wneud hynny gan eu hawdurdod lleol sydd â dyletswydd gyfreithiol, dan ein deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol, i'w helpu i gyflawni eu canlyniadau llesiant. Bydd hyn yn cynnwys eu dyhead i fyw mor annibynnol â phosibl. Caiff awdurdodau lleol eu cyllido i wneud hyn yn rhannol drwy'r Grant Cynnal Refeniw yr ydym yn ei ddarparu i lywodraeth leol.

Dyma sydd wedi bod yn digwydd ers 2010 pan benderfynodd Llywodraeth y DU gau'r Gronfa Byw'n Annibynnol i ymgeiswyr newydd. O hynny ymlaen, nid oedd modd i bobl anabl gael taliadau o'r Gronfa i helpu gyda chostau byw'n annibynnol ar ben cymorth ar wahân gan eu hawdurdod lleol, a oedd yn amod ar gyfer derbyn taliadau'r Gronfa. O ganlyniad fe gafodd system dwy haen ei chreu, gyda rhai o bobl anabl Cymru yn medru cyrraedd at gymorth o'r ddwy ffynhonnell, ond y mwyafrif o bobl anabl ond yn medru derbyn cymorth gan eu hawdurdod lleol.  

Yn 2015, penderfynodd Llywodraeth y DU gau'r Gronfa yn llwyr, gan gredu mai'r ffordd orau o ddiwallu anghenion pobl anabl oedd drwy gefnogaeth gan eu hawdurdod lleol. O ganlyniad, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros ddarparu hyn yn Lloegr i'r awdurdodau lleol. Yng Nghymru, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru gyda swm penodol o gyllid, sef £27 miliwn y flwyddyn. Roedd tua 1,600 o bobl Cymru'n derbyn taliadau o'r Gronfa bryd hynny. Mae hyn o gymharu â'r oddeutu 60,000 sydd bellach yn derbyn gofal a chymorth cymunedol gan eu hawdurdod lleol.

Roedd yn amlwg ar y pryd bod angen sicrhau na fyddai pobl yng Nghymru a arferai dderbyn taliadau o’r Gronfa yn cael eu gadael heb gymorth o ganlyniad i’r penderfyniad hwn. Mewn ymateb, cyflwynodd Llywodraeth Cymru, fel mesur dros dro, Grant Byw'n Annibynnol Cymru i awdurdodau lleol. Roedd hyn i ddarparu'r cyllid y byddai ei angen ar awdurdodau i wneud taliadau di-dor i bobl a fu'n derbyn taliadau o'r Gronfa, wrth i ni ystyried y ffordd fwyaf priodol o ymdrin â’r grŵp penodol hwn yn y dyfodol.

Cyn hyn, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn 2014 ar egwyddorion pedwar opsiwn gwahanol i ddarparu cymorth i'r grŵp hwn o bobl yn y dyfodol. Yna bu grŵp cynghori rhanddeiliaid y Gronfa yn ystyried ymarferoldeb gweithredu set fanylach o opsiynau ar sail y sylwadau a ddaeth i law. Roedd y grŵp cynghori hwn yn cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl yng Nghymru, gan gynnwys Anabledd Cymru a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan i bobl ag Anableddau Dysgu.

Rwy'n deall i'r grŵp cynghori, ar ôl ystyried, argymell darparu cymorth yn y dyfodol drwy awdurdodau lleol er mwyn i holl bobl anabl Cymru - boed yn arfer derbyn taliadau o'r Gronfa neu beidio - gael cymorth mewn ffordd gyson, gyfartal. Roedd hefyd i sicrhau bod y swm penodol o gyllid a drosglwyddwyd oddi wrth Lywodraeth y DU yn cael yr effaith orau bosib drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw yn unig, ac nid ar gyfer costau gweinyddu trefniadau ar wahân i'r rhai arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa. Cadarnhawyd hyn gan y Gweinidog ar y pryd, Rebecca Evans AC, yn ei datganiad ysgrifenedig dyddiedig 3 Tachwedd 2016.

Yn wahanol i Loegr, lle pasiwyd y cyfrifoldeb dros gymorth ar unwaith i awdurdodau lleol heb unrhyw arweiniad, rydym wedi gofalu ein bod yn rheoli'r broses hon. O ganlyniad, ym mis Ebrill llynedd cyflwynwyd cyfnod pontio o ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, disgwylir i awdurdodau lleol ddod i gytundeb gyda'r rhai arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa ynghylch y canlyniadau llesiant y maent yn dymuno eu cyflawni a sut y bydd hyn yn digwydd, a pha gymorth sydd ei angen arnynt. Gall pobl gael cymorth yn uniongyrchol gan eu hawdurdod lleol, neu dderbyn taliadau uniongyrchol oddi wrth yr awdurdod er mwyn medru trefnu'r cymorth eu hunain. Darparwyd canllawiau clir i'r awdurdodau lleol ynghylch sut i gyflawni'r broses hon, gan bwysleisio'r angen am weithio mewn partneriaeth gyda’r bobl sydd angen gofal a chymorth.

Yn ystod ail flwyddyn y cyfnod pontio hwn, mae pobl wedi bod yn trosglwyddo i dderbyn cymorth gan eu hawdurdod, gyda Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn dod i ben ym mis Mawrth eleni a'r swm llawn o £27 miliwn y flwyddyn yn cael ei drosglwyddo i'r Grant Cynnal Refeniw o'r flwyddyn ariannol hon ymlaen er mwyn galluogi'r awdurdodau i ddarparu'r cymorth hwnnw. Ers dechrau'r cyfnod pontio rydym wedi bod yn monitro perfformiad awdurdodau lleol yn ofalus, ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny. Mae'r data diweddaraf, sy'n edrych ar flwyddyn gyntaf y cyfnod hwn, yn dangos bod 75% o'r bobl arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa bellach naill ai wedi cwblhau eu hadolygiad o'u cymorth ar gyfer y dyfodol gyda'r awdurdod lleol, neu yn y broses o wneud hynny. O ganlyniad mae bron i draean o'r holl bobl arferai dderbyn taliadau (tua 400 o'r cyfanswm presennol o 1,300) bellach yn derbyn cymorth gan eu hawdurdod lleol, fel mwyafrif pobl anabl Cymru. Ar ben hynny, mae awdurdodau yn adrodd bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cymorth tebyg i'r hyn a gafwyd wrth ddefnyddio'u taliadau o'r Gronfa, heb i unrhyw broblemau sylweddol godi. Bydd gweddill y bobl yn gorffen eu hadolygiadau o'u cymorth ar gyfer y dyfodol erbyn diwedd mis Medi, ac yn derbyn cymorth gan eu hawdurdod lleol erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.  

Mae’r sefyllfa hon yn cadarnhau unwaith eto i ni wneud y penderfyniad cywir wrth gyflwyno’r newid fesul cam, gyda’r cyfnod pontio dwy flynedd yn rhoi cyfle i bobl sy’n cael eu heffeithio a’r awdurdodau lleol fel ei gilydd gytuno ar y lefel a’r ffurf orau o gymorth i gynnal gallu pobl i fyw’n annibynnol.  Mae'n ddealladwy, er hynny, bod rhai pobl sy'n cael eu heffeithio yn teimlo'n betrus am y newid, ac rwyf eisoes wedi cyfarfod ag arweinwyr ymgyrch i gadw Grant Byw'n Annibynnol Cymru i egluro'r rhesymau dros y newid. Fodd bynnag, rwy'n barod i wrando ac rwyf wedi comisiynu Fforwm Cymru Gyfan, yn gweithio gydag Anabledd Cymru, i gynhyrchu holiadur i bobl sy'n mynd drwy'r broses er mwyn casglu eu barn am eu profiadau a gweld lle gellid gwneud unrhyw welliannau. Ar ben hynny, rwy’n ysgrifennu at yr awdurdodau lleol i bwysleisio pwysigrwydd y cyfnod pontio a’r sgyrsiau y maent yn eu cynnal â phobl er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth penodol sydd ei angen arnynt yn y dyfodol i gyflawni eu canlyniad llesiant o fyw’n annibynnol yn y gymuned.