Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae torri cylch anfantais a thlodi yn hanfodol i lesiant hirdymor a llwyddiant ein plant. Mae gan addysg rôl hanfodol yn hyn, ac mae’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Ni ddylai gallu rhywun i elwa ar addysg fod yn ddibynnol ar ei amgylchiadau personol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ag unrhyw rwystrau i ddysgu a sicrhau tegwch a rhagoriaeth i blant a phobl ifanc. Mae ein Grant Datblygu Disgyblion yn ganolog i hyn. 
Mewn cyfarfod llawn ym mis Ebrill cyhoeddais drefniadau i ehangu’r Grant ymhellach o ddechrau’r flwyddyn ariannol hon. Roedd hyn yn golygu cynyddu unwaith eto y cyllid ar gyfer elfen blynyddoedd cynnar y grant. Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi bod y Grant i’w ehangu ymhellach drwy gyflwyno Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad. Bydd Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn eistedd ochr yn ochr ag elfennau eraill y Grant, a bydd yn canolbwyntio’n benodol ar helpu rhieni gyda’r costau ychwanegol sy’n codi wrth i’w plant ddechrau mewn addysg, a gyda symud ymlaen i ysgol uwchradd.
Bydd y cyllid newydd hwn - £1.7 miliwn - yn fwy hyblyg a pherthnasol i anghenion dysgwyr difreintiedig na’r grant gwisg ysgol blaenorol; bydd hefyd yn cefnogi mwy o ddysgwyr. Rydym yn canolbwyntio ar y cyfnod mynediad i addysg a’r cyfnod pontio i’r ysgol uwchradd. Am y tro cyntaf, bydd y cyllid ar gael i ddysgwyr yn y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim neu sy’n derbyn gofal. 
Yn annhebyg i’r hen grant gwisg ysgol blaenorol, bydd plant sy’n derbyn gofal yn y grwpiau blwyddyn yma yn gymwys, sy’n adlewyrchu’r rhwystrau penodol mae’r grŵp yma o ddysgwyr yn eu hwynebu o ran eu haddysg.
Bydd hyd at £125 ar gael i bob dysgwr cymwys, sy’n gynnydd ar y grant gwisg ysgol blaenorol. Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol.
I gydnabod y costau amrywiol i rieni pan fydd eu plant yn dechrau’r ysgol, ac i annog mwy o ddysgwyr difreintiedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau ehangach, mae’r cyllid yn eang ei gwmpas.
Mae’n gwbl annerbyniol bod rhai o’n pobl ifanc yn colli cyfleoedd oherwydd eu cefndir neu eu hamgylchiadau personol. Dylid annog pob dysgwr i anelu’n uchel, a’u cefnogi i gyflawni eu hamcanion. Dyna fwriad y Grant Datblygu Disgyblion a fe fydd y cyllid newydd hwn yn helpu i sicrhau hyn drwy fynd i’r afael â’r anfanteision mwy y mae dysgwyr yn eu hwynebu am nad ydynt mewn sefyllfa ariannol i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a chyfoethogi a gweithgareddau ar-ôl-ysgol. Dyna pam na fydd y cyllid hwn yn gyfyngedig i gynorthwyo â chost gwisg ysgol yn unig. Bydd yn helpu i godi uchelgais disgyblion a’u cyfoethogi’n ddiwylliannol, ac yn datblygu eu lles a’u gallu i oresgyn problemau. Bydd yn cyfrannu at:
  • Wisg ysgol;
  • Dillad chwaraeon ysgol;
  • Dillad ar gyfer gweithgareddau ehangach, er enghraifft chwaraeon, gwaith sgowtiaid a geidiaid;
  • Cyfarpar ysgol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn cychwyn, fel dylunio a thechnoleg; a
  • Chyfarpar ar gyfer tripiau ysgol y tu allan i oriau ysgol fel dillad gwrth-ddŵr ar gyfer gweithgareddau awyr agored.

Mae awdurdodau lleol wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r grant newydd a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau bod y cyllid hwn ar gael i rieni a gofalwyr erbyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi.
I gefnogi cyflwyno’r cyllid, ac i gefnogi ysgolion yn fwy cyffredinol i wneud penderfyniadau effeithiol ar eu polisïau gwisg ysgol, rydym yn parhau i ystyried sut y gellir cryfhau’r canllawiau cyfredol ynghylch gwisg ysgol. Rydym hefyd yn ystyried yn fwy cyffredinol y gost sy’n gysylltiedig â’r diwrnod ysgol i rieni.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o’m hymrwymiad llwyr i gefnogi ein dysgwyr difreintiedig i gyflawni eu potensial llawn a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng y dysgwyr hynny a’u cyfoedion. Rwy’n hapus iawn, felly, i gael cyhoeddi cyllid pellach i gefnogi’r ymrwymiad hwn.