Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers dechrau pandemig Covid-19 rydym wedi darparu dros £200m o gymorth ariannol i'r diwydiant bysiau i gynnal gwasanaethau bysiau ledled Cymru. 

Ers y pandemig mae llai o bobl bellach yn defnyddio gwasanaethau bysiau. Ond i'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw, maen nhw'n achubiaeth. Mae gwasanaeth bysiau yn hanfodol bwysig wrth gefnogi ein heconomi.  Maent yn hwyluso mynediad at gyfleoedd gwaith, gwasanaethau gofal iechyd a gweithgareddau addysg a chymdeithasol hefyd.

Mae bysiau'n ddull mwy gwyrdd o deithio ac maent yn allweddol i leihau dibyniaeth pobl ar geir.  Mae angen i ni roi dewis amgen gwirioneddol i bobl yn hytrach na’r car ar gyfer teithiau bob dydd, trwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn deniadol.

Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau ledled Cymru o'r adeg y daw cyllid brys i ben i ddod â sefydlogrwydd i'r diwydiant bysiau wrth symud ymlaen.

O 1 Ebrill eleni rydym yn cyflwyno'r Grant Rhwydwaith Bysiau (BNG). Yn ogystal â'r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau (BSSG) gwerth £25m, bydd BNG yn darparu £39m i awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau gwasanaethau bysiau y maent o’r farn eu bod yn angenrheidiol yn gymdeithasol na fydd y farchnad fasnachol yn eu darparu pan ddaw BTF i ben.  Bydd y cynllun newydd yn cynnwys amodau penodol a fydd yn annog gwell cydlynu rhanbarthol o ran gwasanaethau bysiau; tocynnau rhwydwaith a'r angen i sicrhau gwybodaeth gywir a chyfredol am y gwasanaethau bysiau a ddarperir.

Bydd BNG yn sicrhau sefydlogrwydd i'r diwydiant yn ogystal â mwy o reolaeth gyhoeddus ar wasanaethau bws.  Bydd hefyd yn gweithredu fel pont rhwng yr arian brys a ddarparwyd i fasnachfreinio bysiau. 

Bydd BNG yn gynllun deuddeg mis. O 1 Ebrill 2025 ein nod yw cyflwyno un cynllun a fydd yn cymryd lle’r Grant Rhwydwaith Bysiau a’r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau.