Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
O fis Ebrill 2012 ymlaen, bydd y cyllid ar gyfer cefnogi’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion yn cael ei drosglwyddo at, a’i weinyddu gan, yr Adran Addysg a Sgiliau. Bydd Grant y Gymraeg mewn Addysg newydd ar gyfer 2012-13 yn cyfuno arian a ddarparwyd yn flaenorol gan y cynlluniau grant canlynol:
- y Gronfa Ysgolion Gwell gynt (Maes Blaenoriaeth 2), fe’i gweinyddwyd ar wahân fel Grant y Gymraeg mewn Addysg yn ystod 2011-2012;
- grant Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer athrawon bro;
- grant Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer prosiectau peilot addysg drochi ar gyfer hwyrddyfodiaid a dilyniant ieithyddol o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Cyfanswm cyfraniad Llywodraeth Cymru i’r cynlluniau grant hyn yn 2011-12 yw £5.65 miliwn, a cheir arian cyfatebol atodol gan yr awdurdodau lleol.
Bydd Cynlluniau Addysg Gymraeg yr Awdurdodau Lleol, sydd ar hyn o bryd yn cael eu cymeradwyo a’u monitro gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, hefyd yn cael eu disodli yn Ebrill 2012 gan Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg fydd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd Grant y Gymraeg mewn Addysg a Chynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn gysylltiedig â’i gilydd, gan mai nod y ddau fydd cyflawni deilliannau a thargedau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Bydd y newidiadau hyn yn arwain at berthynas agosach rhwng polisi ac ariannu yn y maes hwn.
Caiff canllawiau drafft ar gyfer y grant eu cyhoeddi i gyd-fynd â’r Datganiad Ysgrifenedig hwn. Mae’r canllawiau yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
- disgwylir i’r awdurdodau lleol gyfrannu arian cyfatebol cyfwerth ag o leiaf 33%. Caiff awdurdodau lleol hefyd eu hannog i barhau â’u harfer o ddarparu mwy o arian cyfatebol tuag at y grant hwn na’r isafswm;
- y deilliannau a ddisgwylir gan y grant fydd y rhai a geir yng Nghynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda’r nod o gyflawni deilliannau a thargedau'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg;
- caiff y grant yn 2012-13 ei ddosbarthu i awdurdodau lleol ar yr un sail â’r dyraniadau grant yn 2011-12, gan drosglwyddo i ddyraniad seiliedig ar fformiwla dros y cyfnod o dair blynedd sy’n dilyn. Bydd y fformiwla yn rhoi ystyriaeth i’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ogystal ag addysgu’r Gymraeg. Bydd hefyd yn cydnabod y galwadau ychwanegol sy’n gysylltiedig â darparu cymorth ieithyddol mewn ardaloedd gwledig sydd â llai o boblogaeth. Bydd y newid i ariannu ar sail fformiwla dros y cyfnod 2013-14 i 2015-16 yn arwain at ddosbarthiad tecach o’r cyllid, fydd hefyd yn golygu ail-ddosbarthu rhwng awdurdodau. Rwyf yn cyflwyno’r newidiadau hyn dros gyfnod o flynyddoedd er mwyn galluogi awdurdodau i gynllunio eu darpariaeth mewn modd fydd yn osgoi amharu ar y gwasanaeth;
- er mwyn caniatáu parhad i’r gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn o newid, y raddfa ddirprwyo i ysgolion yn 2012-13 fydd 50%, a bydd y ffigwr hwn yn cynyddu yn y blynyddoedd sy’n dilyn wrth i drefniadau’r consortiwm sefydlu’u hunain;
- bydd y grant yn cael ei frigdorri er mwyn sefydlu Tîm Cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg. Bydd y tîm hwn yn hwyluso, cefnogi a chydlynu gweithgareddau sy’n ymwneud â’r grant ar lefel yr awdurdod lleol a’r consortiwm.
Mae’r newidiadau hyn yr wyf yn eu cyflwyno yn gam sylweddol arall ymlaen yn y gwaith parhaus o roi’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ar waith.