Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth amserol, priodol yn sgîl y digwyddiadau ofnadwy yn Nhŵr Grenfell.

Rhaid i ni sicrhau mai buddiannau tenantiaid sy’n fwyaf yn ein cynllunio ac ymateb. Yr wythnos diwethaf, gyflwynodd Dinas a Sir Abertawe samplau o gladin Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm addefnyddiwyd ar 4 blocdwr yn y ddinas ar gyfer profion. Mae canlyniadau’r profion hyn bellach wedi'u derbyn a chyhoeddwyd datganiad ddoe yn cadarnhau bod y samplau wedi methu’r profion cychwynnol hyn.

Mae'n hanfodol drwy gydol y sefyllfa hon bod gennym buddiannau tenantiaid yn uchaf yn y ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn ymateb. Dros y benwythnos, buom yn cydweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau bod tenantiaid yn ddiogel ac eu bod yn ymwybodol o’r wybodaeth diweddaraf. Mae Dinas a Sir Abertawe wedi mabwysiadu mesurau rhagofalus diogelwch dros dro yn unol â chyngor gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ac Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU. Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi arolygu’r adeiladau yn ddiweddar ac yn fodlon eu bod yn bodloni'r gofynion rheoliadol presennol o ran diogelwch tân. Rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU ar y gwaith y mae eu Panel Arbenigol yn ei wneud i ddatblygu cyngor pellach ar y camau nesaf, yn dilyn y profion cychwynnol.

Yn hyn oll, ein blaenoriaeth gyntaf yw, wrth gwrs, tenantiaid. Mewn cydweithrediad llawn â pherchnogion yr adeiladau, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu canlyniadau Sefydliad Ymchwil Adeiladu yn brydlon, ar yr amod bod tenantiaid yn cael eu briffio'n gyntaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd safiad rhagweithiol ac yn gyfrifol, yn cymryd ymagwedd wedi’i flaenoriaethu i bob un o’r adeiladau sydd wedi’u heffeithio yng Nghymru. Rydym wedi gofyn am wybodaeth o bob awdurdod lleol i sicrhau bod gennym ddarlun cyflawn o'r holl adeiladau preswyl yng Nghymru o saith llawr neu fwy. Yr wyf wedi siarad yn bersonol i’r ddau landlord sydd wedi anfon samplau i'w profi.

Rydym eisoes wedi nodi yn gyflym dai cymdeithasol aml-lawr (saith llawr neu fwy). Rydym hefyd wedi dechrau cydlynu ymatebion sectorau eraill yn y sector cyhoeddus megis addysg ac iechyd. Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i nodi tai dros saith llawr sydd gan yr un cladin Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm sydd bellach yn cael ei brofi. Mae'n hanfodol ein bod yn canfod unrhyw adeiladau aml-lawr yn y sector preifat cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau gall perchnogion yr adeiladau hynny gael hyd i’r un cyngor a chanllawiau, a phrofion lle’n briodol fel ein landlordiaid tai cymdeithasol.

Cyhoeddais yr wythnos diwethaf y byddwn yn dod â grŵp at ei gilydd i ddarparu cyngor ar y gwersi yr ydym wedi dysgu o Grenfell a sut yr ydym yn eu gweithredu. Bydd y grŵp hwn yn cael ei gadeirio gan fy mhrif Cynghorydd Tân ac Achub ac yn cynnwys yr aelodau canlynol:

  • Steve Thomas – Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Ruth Marks – Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Huw Jakeway – Prif Swyddog Tân, Twasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • David Wilton – Prif Weithredwr, Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru
  • Stuart Ropke – Prif Weithredwr, Tai Cymunedol Cymru

Bydd y grŵp yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos hon

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda ei chymheiriaid yn y DU i sicrhau ein bod yn gweithredu ymagwedd gwybodus, cymesur a chyson i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a bob amser, i sicrhau diogelwch tenantiaid. I'r perwyl hwnnw rwyf wedi ysgrifennu heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, i ofyn am fy Mhrif Cynghorydd Tân ac Achub i gael ei gynnwys ar y panel arbenigol Llywodraeth y DU. Rwyf hefyd wedi pwysleisio y pwysigrwydd o fod yn glir ynghylch y camau nesaf.

Yn amlwg, mae hwn yn fater sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau plaid ac yr wyf yn gwahodd llefarwyr y pleidiau i gwrdd â mi i sicrhau eu bod wedi'u briffio'n llawn ar faterion a gweithrediadau sy'n dod i'r amlwg mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym.

Bydd yn gwneud datganiad llafar yn y cyfarfod llawn yfory.