Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y bydd Grŵp Cynghori ar Ddeallusrwydd Artiffisial Strategol yn cael ei sefydlu i roi cyngor arbenigol i Weinidogion ar fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Rydym wedi gweld twf digynsail yn y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial a thechnolegau sy'n seiliedig ar ddata yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod harneisio pŵer y technolegau newydd hyn yn cynnig cyfleoedd i ni sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion a chryfhau economi Cymru. Rydym hefyd yn gwybod, fodd bynnag, bod rhaid i gydraddoldeb, ymddiriedaeth a diogelwch fod wrth wraidd ein ffordd o feddwl o ran Deallusrwydd Artiffisial.

Bydd y Grŵp Cynghori ar Ddeallusrwydd Artiffisial Strategol yn dod ag arbenigwyr nodedig o'r byd academaidd, byd diwydiant a'r sector cyhoeddus ynghyd i ddarparu cyngor annibynnol ar gyfleoedd strategol o ran sut y gall Deallusrwydd Artiffisial gefnogi'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus i wella canlyniadau i ddinasyddion a gwella effeithlonrwydd. Bydd y grŵp hefyd yn cynghori ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn foesegol ac effeithiol mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae'r fforwm        traws-sector hwn yn adlewyrchu ein dull partneriaeth gymdeithasol sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn, a bydd yn eiriolwr allweddol dros arloesi cyfrifol a defnyddio technolegau sy'n dod i'r amlwg yn foesegol.

Er mwyn ymgorffori'r ymrwymiad hwn ymhellach o fewn y llywodraeth, rydym hefyd yn sefydlu Swyddfa bwrpasol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd yr uned newydd hon yn cryfhau ein gallu mewnol, yn hwyluso'r gwaith o lunio polisïau ar sail gwybodaeth, ac yn cefnogi cydweithredu ystyrlon â rhanddeiliaid ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Rwy'n hyderus y bydd y Grŵp Cynghori ar Ddeallusrwydd Artiffisial Strategol, gan weithio gyda chymorth Swyddfa Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod datblygiadau technolegol yn gwasanaethu er budd y cyhoedd ac yn cyd-fynd â gwerthoedd cymdeithas Cymru.