Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddoe, cynhaliais drydydd cyfarfod Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Addysg Drydyddol a hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi ei wneud a'r camau nesaf. Ym mis Chwefror, rhoddais gipolwg ar waith a chylch gwaith y Grŵp, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector i roi cyngor ar gyfeiriad addysg drydyddol yng Nghymru yn y dyfodol. 

Yn y cyfarfod fis diwethaf, cafwyd trafodaeth gyfoethog ac amhrisiadwy yn canolbwyntio ar gyfranogiad, cyfle cyfartal a chynaliadwyedd ariannol. Ddoe, ystyriwyd y tair her sy'n parhau i'n hwynebu a nodir yn y papur tystiolaeth a gyhoeddais ar 21 Ionawr, sy'n ymwneud â Chystadleuaeth a chydweithio, Newid demograffig a dysgu gydol oes, a Chyflawni ar gyfer yr economi. 

Trafododd y Grŵp effaith bosibl newidiadau demograffig a ragwelir a'r angen i sicrhau y gall dysgwyr o bob oed gael eu huwchsgilio a ffynnu mewn addysg trwy gydol oes. Roedd y drafodaeth hefyd yn ystyried y gwaith partneriaeth ardderchog sydd eisoes yn digwydd ar draws y sector rhwng ysgolion, colegau, prifysgolion, y diwydiant, a phartneriaid ehangach, rhai o'r rhwystrau i gydweithredu effeithiol, a sut y gallwn adeiladu ar ein cryfderau. Yn olaf, edrychodd y grŵp ar gyfraniad y sector trydyddol i'r economi o ran effaith gwahanol lwybrau cymwysterau, rôl hanfodol ymchwil ac arloesi ac effeithiau posibl newidiadau sy'n digwydd ar lefel y Deyrnas Unedig i gyllid ymchwil lle bydd gweithio mewn partneriaeth eto yn allweddol.

Dyma'r cyfarfod olaf a drefnwyd ar gyfer y Grŵp a bydd ei gyfraniadau yn cael eu hymgorffori yn yr alwad am gyflwyniadau tystiolaeth. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl Aelodau am fod mor barod i rannu eu harbenigedd, eu profiad a'u dealltwriaeth. Mae'r Grŵp wedi bod yn enghraifft wych o weithio ar y cyd ar draws y sector addysg drydyddol yng Nghymru.