Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ail-lansio Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl. Mae gwella cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl, o bob oed, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae gofalwyr di-dâl yn rhoi cymorth hanfodol i'n dinasyddion, a bydd y Grŵp Cynghori Gweinidogol yn helpu i yrru ein hagenda wella trwy ddarparu mewnwelediadau, syniadau, a phrofiadau bywyd. Bydd hefyd yn darparu her a goruchwyliaeth i'n gwaith, gan greu fforwm cydweithio.
Bydd aelodau'r grŵp yn cynnwys gofalwyr di-dâl a sefydliadau gofalwyr, ynghyd ag arweinwyr awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ac amrywiaeth o asiantaethau eraill sy'n fwyaf perthnasol i ofalwyr di-dâl.
Rwyf wedi penodi Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori, ac Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Busnes, Partneriaethau a Chynhwysiant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn Ddirprwy Gadeirydd. Mae Kate ac Anna yn dod â phrofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth, a gwybodaeth fanwl am faterion gofalwyr di-dâl ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Mae Kate yn eiriolwr cryf dros ofalwyr di-dâl yn ei rôl yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ac mae gan Anna ddealltwriaeth helaeth o wasanaethau gofalwyr yn y sector statudol.
Byddaf yn gweithio gyda'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd i sefydlu'r aelodaeth lawn, a byddaf yn sicrhau bod cynrychiolaeth gref gan oedolion sy'n ofalwyr a gofalwyr ifanc, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r sefydliadau hynny a all gyfrannu fwyaf at weithredu'r agenda wella.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
