Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n ysgrifennu i gyhoeddi fy mwriad i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Datblygu Gwledig.  Pwrpas y grŵp yw datblygu ac argymell cynllun strategol ar gyfer ymwneud â thwf economaidd a llesiant yr Economi Wledig mewn ffordd gynaliadwy..

Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i’r hyn sy’n rhwystro twf ynni adnewyddadwy mewn ardaloedd gwledig (gan gynnwys cyfyngiadau’r grid a storio ynni’n effeithiol) er mwyn darparu swyddi, twf, cyfoeth, gwella llesiant y gymuned, trechu tlodi tanwydd yn ogystal â hybu lles cymunedau yn ardaloedd gwledig Cymru trwy ynni adnewyddadwy a materion cysylltiedig.

Rwyf wedi gofyn I Jeremy Smith, Rheolwr Datblygu Cymru, RWE Innogy  i Gadeirio’r Grŵp, ac mae wedi derbyn y gwahoddiad.  

Cytunwyd ar aelodau’r Grŵp fel a ganlyn:
Arbenigwr Academaidd Economaidd                   Peter Midmore
Arbenigwr Materion Cynllunio                            Edmund Bailey
Undeb Credyd y Gogledd                                   Rina Clarke
Grid – CEW                                                      Chris Blake
Coedwigaeth – CONFOR                                    Martin Bishop
Busnesau bach a chanolig - MD Dulas Ltd            Phil Horton
OFGEM Rep - Sylwedydd                                   James Veaney
Biomas – Severn Wye Energy Agency                 Dr Rachel Smith

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp cyn hir.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ymgynnull eto, os bydd angen.