Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru 

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, dan arweiniad Syr Paul Williams, yn cynnig set bellgyrhaeddol a phwysig o ddiwygiadau i wasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad y Comisiwn sydd, ynghyd ag adroddiadau’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru dan arweiniad Paul Silk, yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus a chanlyniadau i bobl ledled Cymru.

Rwyf felly wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol newydd i arwain ar ddatblygu a chyflwyno agenda ddiwygio newydd, a fydd yn cynnwys ein hymatebion i adroddiadau’r ddau Gomisiwn. Mae Cylch Gorchwyl y Grŵp wedi’i atodi a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ar yr agenda ddiwygio hon cyn toriad yr haf.