Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 8 Tachwedd 2012, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, Leighton Andrews, Ddatganiad Ysgrifenedig ar Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd ganddo i ymchwilio i faterion llywodraethu ysgolion. Cylch gwaith gwreiddiol y Grŵp oedd ystyried pa mor addas at y diben oedd y fframwaith llywodraethu ysgolion yng Nghymru a gwneud argymhellion yn seiliedig ar y casgliadau a ddeilliodd o adolygiad y grŵp.  

Cafodd gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraethu Ysgolion ei adael ar ei hanner tra bod Adolygiad Hill yn mynd rhagddo. Ailalwyd y Grŵp yn ffurfiol ar 4 Ebrill 2013 a pharhaodd i ystyried y fframwaith llywodraethu yng nghyd-destun y newidiadau a awgrymwyd yn Adroddiad Hill. 

Cafwyd 31 o argymhellion yn adroddiad y Grŵp, y mae llawer ohonynt yn yr arfaeth neu'n mynd rhagddynt eisoes fel rhan o adolygiad arfaethedig Llywodraeth Cymru o fframwaith deddfwriaethol llywodraethu ysgolion.  Cyhoeddwyd copi o'r adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru heddiw ac maent ar gael ar lein.

Mae'r fframwaith deddfwriaethol presennol sy'n cwmpasu llywodraethu ysgolion wedi bodoli ers 2005, ac nid ystyrir ei fod yn hyblyg nac yn galluogi llywodraethwyr ysgolion i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i fentrau cenedlaethol - mae'n rhy ddiffiniedig a chyfyngedig. Er bod argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn helpu i ymdrin â hyn i ryw raddau, nid yw'n mynd yn ddigon pell.  Bydd fy Adran yn parhau i ystyried rôl cyrff llywodraethu wrth bennu pa gamau pellach sydd eu hangen.  Sicrhaf fod Aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r Grŵp am ei adroddiad.