Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau safonau uchel o ran lles anifeiliaid a gedwir yng Nghymru, ym mhob cyfnod yn eu bywydau. Dylai anifeiliaid gael eu hamddiffyn rhag poen, anaf, ofn a gofid.

Ym mis Mawrth eleni, paratôdd RSPCA Cymru ddogfen friffio yn amlinellu eu hachos dros gyflwyno Cofrestr ar gyfer Pobl sy’n Cam-drin Anifeiliaid yng Nghymru ac yn cynnig arwain y gwaith o sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

Credaf y dylid rhoi ystyriaeth bellach i’r cynnig i sefydlu cofrestr o’r fath. Fis diwethaf ysgrifennais at bob Aelod Cynulliad i’w hysbysu fy mod yn cefnogi cynnig RSPCA Cymru a’m bod wedi gofyn iddynt sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried sefydlu Cofrestr ar gyfer Pobl sy’n Cam-drin Anifeiliaid. Mae RSPCA Cymru wedi cytuno i wneud hynny, a byddant yn darparu cymorth ysgrifenyddiaeth hefyd.

Rwyf wedi cytuno ar Gylch Gorchwyl y Grŵp, gan gynnwys yr amserlen a’r allbynnau allweddol. Bydd swyddogion yn mynd ati i weithio gyda RSPCA Cymru i benderfynu ar yr aelodaeth. Bydd gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cychwyn cyn gynted â phosibl, gyda’i gyfarfod ffurfiol cyntaf i’w gynnal ym mis Medi. Bydd y casgliadau interim yn cael eu cyflwyno i mi erbyn 31 Mawrth 2018.