Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymrwymodd Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru (2021[1] i "gomisiynu cyngor annibynnol i archwilio llwybrau posibl i sero-net erbyn 2035 – y dyddiad targed presennol yw 2050. Bydd hyn yn edrych ar effaith ein heconomi ar gymdeithas a sectorau a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys sut mae'r costau a'r buddion yn cael eu rhannu'n deg".

Yn dilyn trafodaethau gyda Siân Gwenllian AS, hysbysais y Senedd fod Dr. Jane Davidson wedi cytuno i Gadeirio'r gwaith.

Gallaf bellach roi gwybod i'r Senedd bod y Grŵp Her Net Sero wedi ei greu ac wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf ddydd Mercher 11 Ionawr.  Mae 14 o arbenigwyr technegol wedi ymuno â'r Grŵp, a ddewiswyd o'r byd academaidd, sefydliadau cyhoeddus a phreifat, gydag arbenigedd ar draws pob sector allweddol o'n heconomi. Mae nifer o sylwedyddion yn ymuno â nhw a bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn eu cefnogi.

Ystyriodd y cyfarfod cyntaf sut y bydd y Grŵp yn trefnu ac yn ymgymryd â'i waith. Gallwn ddisgwyl cyhoeddi rhagor o fanylion, yn dilyn ail gyfarfod y Grŵp ddechrau Chwefror.

Gwnes i ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Sian Gwenllian, ymuno â’r cyfarfod rhithwir cyntaf er mwyn diolch i aelodau’r grŵp am ymgymryd â’r gwaith pwysig hwn.

Y disgwyl yw y bydd y grŵp yn cyhoeddi nifer o ddogfennau ar sylwedd eu gwaith rhwng dechrau 2023 a chanol 2024. Byddaf yn cadw cysylltiad rheolaidd gyda Dr Davidson a Sian Gwenllian trwy gyfarfodydd chwarterol a byddaf yn diweddaru'r Senedd fel y bo'n briodol.

Rwy'n ddiolchgar i Dr. Davidson a'r arbenigwyr sy'n rhan o’r Grŵp, sy'n rhoi eu hamser am ddim.

Mae aelodaeth y Grŵp Her Sero Net 2035 fel a ganlyn.

Cadeirydd:

Dr. Jane Davidson

Aelodau arbenigol:

Matthew Knight – Siemens Energy

Nick Molho - Grŵp Aldersgate 

Yr Athro Gavin Bunting – Prifysgol Abertawe

Paul Allen - Canolfan Technoleg Amgen

Simon Wright - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Keith Jones - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Dr. Judith Thornton - Prifysgol Aberystwyth

Rachel Sharp - Ymddiriedolaeth Natur Cymru

Yr Athro Lorraine Whitmarsh - Prifysgol Caerfaddon

Jyoti Banerjee – Wales Transition Lab

Yr Athro Karen Morrow - Prifysgol Abertawe

Dr. Jennifer Rudd - Prifysgol Abertawe

Dr. Eurgain Powell - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Derek Walker - Cwmpas

Sarah Dickins – Cyn Ohebydd y BBC ar yr Economi

Will Penri Evans – Cynhadledd Ffermio Rhydychen

Ben Rawlence – Cyfarwyddwr Coleg y Mynyddoedd Du

[1] Y Cytundeb Cydweithio