Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roeddwn mewn Grŵp Rhyng-weinidogol ar Chwaraeon ar 1 Mawrth a gynhaliwyd gan Lywodraeth yr Alban yn Glasgow.  Daw y Grŵp â phedwar Gweinidog Chwaraeon y DU ynghyd i gefnogi cydlynnu a rhannu arferion gorau rhwng y gweinyddiaethau datganoleddig a Llywodraeth y DU. 

Cadeiriwyd y cyfarfod grŵp hwn gan Maree Todd, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Lles Meddwl a Chwaraeon, Llywodraeth yr Alban.  Hefyd yn bresennol oedd y Gwir Anrhydeddus Stuart Andrews AS, Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Llywodraeth y DU a Gordon Lyons, Gweinidog Cymunedau, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfarfod ei gefnogi hefyd gan y pedwar cyngor chwaraeon, gan gynnwys Tanni Grey-Thompson fel Cadeirydd Chwaraeon Cymru, ac UK Sport.  Roedd ein trafodaethau yn cynnwys diogelwch ac uniondeb chwaraeon, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn arweinyddiaeth chwaraeon, a pharatoadau ar gyfer y Gemau Paraolympaidd ym Mharis eleni.

Roedd y daith hefyd yn cynnwys ymweliad ag Ysgol Haghill, sy’n rhan o Ganolfan Chwaraeon gymunedol yn East End Glasgow, un o gymunedau mwyaf difreintiedig Yr Alban.  Roedd yr ymweliad yn arddangos sut y mae Sport Scotland yn gweithio gydag awdurdodau lleol wedi’u targedu, gan gynnwys Cyngor Dinas Glasgow, i ddefnyddio dull seiliedig ar le a dod â'r gymuned a'r partneriaid ynghyd er budd chwaraeon a chyflawni canlyniadau ehangach trwy chwaraeon. 

Yn dilyn y cyfarfod, cefais fy ngwahodd gan Lywodraeth yr Alban i fynd i ran o Bencampwriaethau Dan Do Athletau'r Byd yn yr Emirates Arena.