Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, roeddwn am hysbysu aelodau fy  mod wedi bod yn bresennol yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Busnes a Diwydiant, ar 17 Ionawr.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Arglwydd Callanan, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ac roedd Ivan McKee ASP, y Gweinidog Busnes, Masnach, Twristiaeth a Menter yn Llywodraeth yr Alban hefyd yn bresennol. Cynrychiolwyd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon gan uwch swyddog oedd yn gweithredu fel sylwedydd.       

Yn y cyfarfod trafodom y materion sy'n effeithio ar economïau pob gwlad ar hyn o bryd. Gwnaethom hefyd adolygu'r cynllun cymorth ynni newydd ar gyfer busnesau, y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni (EBDS). Er fy mod yn croesawu cyffredinolrwydd y cynllun newydd, a fydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i fusnesau, pwysleisiais y gallai'r EBDS wneud mwy i helpu'r sector cyhoeddus a'r busnesau hynny sy'n cyflenwi sefydliadau'r sector cyhoeddus.

Rhoddodd yr Arglwydd Callanan ddiweddariad ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf). Mynegais fy mhryderon ynghylch y ddeddfwriaeth ac er fy mod yn cydnabod bod cyfraith cyflogaeth yn fater a gedwir yn ôl, nid wyf yn rhannu dadansoddiad Llywodraeth y DU o'r effaith ar y setliad datganoli. Pwysleisiais safbwynt Llywodraeth Cymru y dylid wastad osgoi streicio neu y dylid datrys unrhyw anghydfod bob amser drwy drafod yn adeiladol, nid drwy ddeddfwriaeth.  

Yna, rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, y diwygiadau cysylltiedig i Dŷ'r Cwmnïau a gweithredu'r Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi).  Roeddwn yn croesawu’r darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn y Mesur Troseddau Economaidd a nodais bod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol eisoes wedi’i osod gerbron y Senedd.

Yn olaf, buom yn siarad am ffocws strategol y Grŵp hwn. Cytunwyd bod angen i gyfarfodydd ganolbwyntio ar feysydd polisi allweddol a rennir.  

Bydd y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fusnes a Diwydiant nesaf yn cael ei gynnal ym mis Mawrth, a byddaf i’n Gadeirydd arno. Byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor yn cadarnhau'r dyddiad unwaith y bydd wedi'i gytuno

Bydd hysbysiad ynghylch y cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn

https://www.gov.uk/government/publications/interministerial-group-for-business-and-industry-communiques (Saesneg yn Unig)