Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, roeddwn i eisiau adrodd ar gyfarfod diweddaraf y Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2024. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Y Gwir Anrh Ed Miliband MP, Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net.
Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan Michael Shanks MP (MS), Gweinidog Ynni, Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, Gillian Martin MSP, Ysgrifennydd Cabinet Dros Dro dros Sero Net ac Ynni, Dr Alasdair Allan MSP, Gweinidog Gweithredu Hinsawdd Dros Dro, Andrew Muir MLA, Minister of Agriculture, Gweinidog Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig, Conor Murphy MLA, Gweinidog yr Economi.
Trafododd y cyfarfod dri phrif bwnc: cyflawni ein huchelgais Sero Net; datgarboneiddio'r sector pŵer – cyfleoedd a heriau; a chydweithio ac ymgysylltu yn y dyfodol. Roedd y cyfarfod yn arwydd o ailosod y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau Datganoledig, a chafodd hynny groeso cynnes. Mynegodd pob un ohonom ein dymuniad cryf am gydweithio ledled y DU ar yr agenda bwysig hon, ac am y cyfle i ddangos arweinyddiaeth yn rhyngwladol.
Yn y drafodaeth a ddilynodd, pwysleisiais rôl Llywodraeth y DU o ran helpu Cymru i gyrraedd ein targedau hinsawdd statudol, gan nodi bod 60% o allyriadau Cymru yn dod o sectorau y mae eu polisïau yn rhai a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Pwysleisiais yr angen am fodel cludiant Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS) a swm canlyniadol Barnett ar gyfer cyllid rheilffyrdd. Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch capasiti'r grid, a phwysleisiais ein hawydd i wneud y gorau o'r synergeddau rhwng Trydan Gwyrdd Cymru a Great British Energy. Gwnes i godi pwysigrwydd cynllunio ynni ein hardal leol a sut y gall cymunedau sy'n cynnal seilwaith newydd elwa.
Bydd Gogledd Iwerddon yn cadeirio'r cyfarfod nesaf yn Belfast.
Cyhoeddwyd datganiad am y cyfarfod ar GOV.UK: https://www.gov.uk/government/publications/interministerial-group-for-net-zero-energy-and-climate-change-communique-17-october-2024.