Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, roeddwn i eisiau adrodd ar gyfarfod diweddaraf y Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2025. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Gillian Martin MSP, Ysgrifennydd Cabinet dros Weithredu ar yr Hinsawdd ac Ynni i Lywodraeth yr Alban.

Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan Katie White MP, Gweinidog dros yr Hinsawdd i Adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Andrew Muir MLA, Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac uwch swyddog o Adran yr Economi yng ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon (yn dirprwyo ar ran Gweinidog yr Economi).

Clywodd y Grŵp Rhyngweinidogol ddiweddariad gan y Gweinidog dros yr Hinsawdd ar   ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at cyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar Seithfed Gyllideb Garbon y DU. Trafododd y grŵp y blaenoriaethau a’u rhennir, a’r risgiau a’r cyfleoedd i'r Llywodraethau Datganoledig yng ngyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd. 

Rhoddodd y Gweinidog Hinsawdd ddiweddariad ar baratoadau Llywodraeth y DU ar gyfer COP30.

Bydd Llywodraeth y DU yn cadeirio’r cyfarfod Grŵp Rhyngweinidogol nesaf.

Cyhoeddwyd datganiad am y cyfarfod ar GOV.UK: 

Interministerial Group for Net Zero, Energy and Climate Change communiqué: 21 October 2025 - GOV.UK