Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd i'r Aelodau fy mod wedi mynychu'r Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2026. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Martin McCluskey AS, Gweinidog Defnyddwyr Ynni, Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan Màiri McAllan MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth yr Alban, a Gordon Lyons MLA, Gweinidog dros Gymunedau, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.
Roedd ffocws y cyfarfod ar Gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Amlinellodd y Gweinidog Defnyddwyr Ynni’r Cynllun, ac ar ôl hynny cynigiodd aelodau'r Grŵp Rhyngweinidogol eu sylwadau. Gwnaeth y Gweinidog hefyd nodi'r cynlluniau ar gyfer yr Asiantaeth Cartrefi Cynnes arfaethedig, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yma a'r camau sydd i ddod yn ei datblygiad, gan gynnwys llwybrau posibl ar gyfer cyfranogiad y llywodraethau datganoledig.
Ar ran Llywodraeth Cymru, croesawais Gynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU a phwysleisiais ein cefnogaeth i'r uchelgais yn y Cynllun i leihau biliau, creu swyddi a chyfleoedd busnes, a gwella ein diogelwch ynni. Ailadroddais ein bod yn ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn elwa o'r trawsnewidiad i gartrefi iach a charbon-isel.
Mae'r uchelgais yn glir. Nawr mae angen i ni weithio ar y manylion, i sicrhau bod ein polisïau'n cyd-fynd ac yn darparu buddion parhaol i'n cymunedau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cyfran deg i Gymru o’r buddsoddiadau o £15.2bn sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Cartrefi Cynnes.
Bydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cadeirio’r cyfarfod Grŵp Rhyngweinidogol nesaf, a ddisgwylir iddo ddigwydd ym mis Mawrth.
Cyhoeddwyd datganiad am y cyfarfod ar GOV.UK:
Interministerial Group for Net Zero, Energy and Climate Change Communiqué: 26 January 2026 - GOV.UK
