Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol Sero-Net, Ynni a Newid Hinsawdd ar 13 Hydref. 

Y Cadeirydd oedd y Gwir Anrh Kwasi Kwarteng AS y DU, y Gweinidog Gwladol dros Fusnes, Ynni a Thwf Glân.  Hefyd yn bresennol yr oedd Roseanna Cunningham, ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir, Paul Wheelhouse ASA, y Gweinidog Ynni, Cysylltedd a’r Ynysoedd ac Edwin Pools ACD, y Gweinidog Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig. 

Ymhlith pethau eraill, trafodwyd y negodiadau diweddaraf rhwng y DU a’r UE ar y cytundeb masnach.  Gofynnais i Lywodraeth y DU ymrwymo i Gynllun Masnachu Allyriadau (ETS) wedi’i gysylltu ag ETS yr UE ac os na fyddai hynny’n bosibl, dadleuais yn gryf o blaid ETS annibynnol ar gyfer y DU. Byddai’n hynny’n well na Threth Allyriadau Carbon, sy’n bolisi a ddargedwir y mae Llywodraeth y DU yn mynd amdano yr un pryd ac sy’n bolisi na fyddai gan Weinidogion a Senedd Cymru unrhyw gyfrifoldeb amdano na dylanwad arno. Gofynnais am gadarnhad pryd y câi penderfyniad ei wneud a sut y byddai Llywodraeth Cymru’n cyfrannu at y penderfyniad hwnnw.  Ni chefais ateb gan Weinidog y DU i’r cwestiynau hyn ac ni cheisiodd chwaith â thawelu fy ofnau yn y cyfarfod.

Gwnaethom drafod hefyd amcanion datgarboneiddio’r DU yng nghyd-destun Cynhadledd COP26, ein hymrwymiadau rhyngwladol a thargedau datgarboneiddio’r DU a thargedau’r Gweinyddiaethau Datganoledig. 

Ysgrifennais at y Gweinidog Kwarteng am y materion hyn a materion eraill ar ôl y cyfarfod, gan gynnwys yr angen i drafod y Strategaeth Datgarboneiddio Ddiwydiannol â Llywodraeth Cymru a’r angen i sicrhau ariannu teg i ddiwydiannau Cymru, gan gynnwys ailgylchu cyllid yr ETS.