Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynrychiolais Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod cyntaf Grŵp Rhyngweinidogol y 4 Gwlad ar Waith a Phensiynau ar 26 Mehefin Cadeiriwyd y cyfarfod gan Andrew Western, y Gweinidog dros Drawsnewid yn Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rhoddodd y cyfarfod cyntaf hwn gyfle i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ddod at ei gilydd i drafod materion o ddiddordeb i'r ddwy ochr ym meysydd cymorth cyflogaeth, anabledd, nawdd cymdeithasol, cynhaliaeth plant a phensiynau.

Cytunwyd ar y cylch gorchwyl yn ffurfiol ar ddechrau'r cyfarfod a rhagwelir y bydd yn cael ei gyhoeddi ar dudalen bwrpasol Cysylltiadau Rhynglywodraethol ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig.   

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y papur gwyrdd Llwybrau at Waith a'r papur gwyn Get Britain Working . Codais bryderon am y posibilrwydd o effaith anghymesur y newidiadau arfaethedig i feini prawf cymhwystra'r Taliad Annibyniaeth Personol yng Nghymru a pha mor bwysig yw gwrando ar yr unigolion a fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn. Cytunwyd i barhau i ymgysylltu ar y mater hwn ar draws y pedair gwlad. 

O ran cymorth cyflogaeth, tynnais sylw at bwysigrwydd sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'r rhaglenni presennol gan nodi llwyddiannau ein cymorth cyflogadwyedd cymunedol a'n Gwarant i Bobl Ifanc wrth ennill ymddiriedaeth gan bobl yng Nghymru. 

Nodais hefyd yr angen i sicrhau ein bod yn cyfathrebu'n rheolaidd i rannu gwersi a ddysgwyd ac arwyddocâd rhannu data amserol a chywir a fydd yn ein galluogi i gyflawni'r nod cyffredin o gefnogi mwy o bobl i mewn i gyflogaeth. 

Disgwylir i hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y dyfodol agos. 

Yn dilyn y cyfarfod, ar 1 Mehefin cadarnhaodd Gweinidog yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd y byddai Cymal 5 yn cael ei dynnu’n ôl o’r Bil Credyd Cynhwysol a Thaliadau Annibyniaeth Personol, sy’n golygu y bydd unrhyw newidiadau i’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Taliad Annibyniaeth Personol yn cael eu hystyried ar ôl cwblhau’r adolygiad o’r Taliad Annibyniaeth Personol.