Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Yn sgil cyhoeddi Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, cawsom ein hatgoffa mewn ffordd drawiadol o'r effaith ddofn a pharhaol y gall methiannau ym maes diogelu ei chael ar blant a phobl ifanc, ac o'r cyfrifoldeb sydd ar bob un ohonom i sicrhau nad yw methiannau o'r fath byth yn cael eu hailadrodd.
Mewn ymateb i'r adroddiad, sefydlais Grŵp Sicrwydd Gweinidogol, gyda mi, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i roi sicrwydd ar y camau sy'n cael eu cymryd gan Gyngor Gwynedd i fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad, ac i yrru gwelliannau cyson mewn trefniadau diogelu.
Drwy waith y Grŵp Sicrwydd hwn, rydym wedi canolbwyntio ar nifer o themâu allweddol sy'n ganolog i gryfhau arferion diogelu. Mae'r trafodaethau hyn wedi pwysleisio sicrhau bod llais a phrofiad y plentyn yn parhau i gael lle canolog mewn systemau diogelu ac yn y penderfyniadau a wneir a pwysigrwydd trefniadau sicrhau ansawdd cadarn a'r defnydd cyson o dystiolaeth i yrru gwelliant.
Mae Cyngor Gwynedd wedi sefydlu Cynllun Ymateb i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r Adolygiad Ymarfer Plant, yr ydym wedi gallu craffu, ac mae hwn wedi'i strwythuro o amgylch chwe thema allweddol, pob un wedi'i gynllunio i ysgogi gwelliant parhaol mewn arferion diogelu.
Mae Strategaeth Llais y Plentyn yn rhan allweddol o'u hymateb i sicrhau bod plant yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu credu a'u gwerthfawrogi. Fel Grŵp Sicrwydd, rydym wedi trafod pwysigrwydd gofalu mai profiadau'r plant eu hunain sy'n llywio'r systemau a gynllunnir i'w cadw'n ddiogel.
Mae Rheoli Honiadau a Phryderon am Oedolion sy'n Gweithio gyda Phlant yn thema allweddol arall. Mae Cyngor Gwynedd wedi gwella trefniadau Adran 5 yn dilyn yr Adolygiad Ymarfer Plant, gan ganolbwyntio ar ddelio'n well â phryderon proffesiynol yn well a gwneud defnydd cliriach o'r wybodaeth sydd ar gael, yn unol â thrafodaethau strategaeth Adran 5.
Maent wedi cyflwyno Fframwaith Sicrhau Ansawdd i wella trefniadau goruchwylio o ran diogelu ac i wella hefyd sut mae ymdrechion diogelu yn cael eu monitro a'u hadrodd. Nid mater technegol yw'r gwaith hwn yn unig; mae'n adlewyrchu pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod plant yn cael eu diogelu'n well. Trwy roi'r lle canolog i dystiolaeth wrth wneud penderfyniadau, mae'r Cyngor yn bwriadu cryfhau hyder y bydd pryderon yn cael eu nodi'n gynharach, y gweithredir arnynt yn fwy cyson, ac y bydd hyn yn golygu gwell amddiffyniad i blant a phobl ifanc.
Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn canolbwyntio ar weithredu gwelliannau mewn hyfforddiant, polisïau diogelu ac yn hyder y gweithlu, er mwyn cryfhau arferion proffesiynol ac atal problemau yn y dyfodol. Mae gweithdrefnau diogelu allweddol yn cael eu diweddaru, ac mae polisïau lleol yn cael eu cysoni â chanllawiau cenedlaethol o'r adolygiad. Mae'r awdurdod yn gweithredu hyfforddiant staff gwell sy'n canolbwyntio ar ddiogelu a grŵmio. Mae gwaith hefyd ar y gweill i sefydlu gweithdrefnau chwythu'r chwiban clir, fel bod yr holl staff yn gwybod sut i godi pryderon yn ddiogel ac yn gyson.
Mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud llywodraethiant ysgolion yn ffocws allweddol, gan gydnabod yr angen am gyrff llywodraethu cryf i ddarparu her a goruchwylio mesurau diogelu. Ymhlith yr ymdrechion i gefnogi llywodraethwyr mae gwell clercio a swyddog cymorth llywodraethiant newydd, gyda'r nod o roi hwb i gapasiti, cysondeb a hyder. Nod y mentrau hyn yw helpu llywodraethwyr i ddeall diogelu yn well, craffu ar arferion, a dal arweinwyr i gyfrif, gan hyrwyddo atebolrwydd cliriach ac arweinyddiaeth gryfach ym maes diogelu mewn ysgolion.
Mae ffocws penodol hefyd ar wella polisïau a chanllawiau lleol mewn perthynas â Lleihau Arferion Cyfyngol. Ymhlith y blaenoriaethau mae gwella'r ffordd y mae arferion cyfyngol yn cael eu holrhain a'u hadolygu, gyda phwyslais ychwanegol ar ddisgwyliadau clir mewn ysgolion a gwasanaethau, mesurau diogelu cryfach, a defnyddio gwersi o ddigwyddiadau blaenorol i leihau'r defnydd o arferion cyfyngol a chyflawni canlyniadau gwell i blant.
Maent hefyd yn ymgymryd â rhywfaint o waith i gryfhau a symleiddio trefniadau ymateb i argyfwng, gan gynnwys datblygu cynllun mwy integredig a hawdd ei ddefnyddio, sy'n cydgrynhoi gweithdrefnau iechyd a diogelwch, diogelu ac argyfwng. Mae'r dull gweithredu hwn wedi'i gynllunio i ddarparu mwy o eglurder i ysgolion a staff, cefnogi ymatebion amserol a chymesur pan fydd achos yn codi, a sicrhau bod gwybodaeth hanfodol yn hawdd cael gafael arni, i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ac amddiffyn plant a phobl ifanc mewn argyfwng.
Er mwyn cefnogi Cyngor Gwynedd gyda'u gwaith, darparwyd cyllid gennym er mwyn ei gwneud yn bosibl cyflawni'r newidiadau angenrheidiol sy'n deillio o'r adroddiad. Mae'r cyllid hwn wedi chwarae rôl bwysig o ran cryfhau capasiti lleol a chefnogi'r broses o weithredu gwelliannau ym maes diogelu, gan gynnwys gwella trefniadau goruchwylio, sicrwydd ansawdd a'r trefniadau sydd ar waith i sicrhau newid hirdymor.
Ym mis Tachwedd, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru arolygiad ar y cyd ag Estyn o wasanaethau plant a theuluoedd ac adran addysg awdurdod lleol Gwynedd. Canfu'r arolygiad sylfaen gadarn ar gyfer diogelu o fewn yr awdurdod, er bod yr arferion yn anghyson. Er mwyn cyflawni gwelliannau hirdymor a chanlyniadau gwell i blant, argymhellodd yr adroddiad yr angen i wella a chryfhau polisïau, gweithdrefnau, strategaethau, arferion a phrosesau sicrhau ansawdd ar draws adrannau'r Cyngor, gyda chymorth polisi corfforaethol ar lais y plentyn.
Cynhaliwyd cyfarfod Grŵp Sicrwydd olaf y tymor Seneddol hwn ar 23 Mawrth, a hoffwn gofnodi fy niolch i'r Cynghorydd Jeffreys a'i thîm am eu cydweithrediad a'u hymgysylltiad adeiladol drwy gydol gwaith y Grŵp Sicrwydd. Mae eu parodrwydd i ystyried heriau a dangos cynnydd wedi bod yn ganolog i'r broses hon.
Rwy'n gobeithio gweld y gwaith hwn yn parhau i'r tymor Seneddol nesaf, gydag arweinyddiaeth a threfniadau goruchwylio ac atebolrwydd cyson, i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn parhau i arwain at newid ystyrlon a pharhaol i blant a phobl ifanc.
