Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n croesawu'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru sy'n dwyn y teitl 'Grymuso Cymunedau yng nghyd-destun Brexit'. Mae'r adroddiad yn nodi effeithiau posibl Brexit ar ein cymunedau, y gwasanaethau a ddarperir iddynt, a'r cyrff trydydd sector sy'n darparu llawer o'r gwasanaethau hyn.

Mae'r Trydydd Sector yng Nghymru yn darparu ystod eang o wasanaethau i rai o bobl a chymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Rydym yn clywed gan y byd busnes am yr effaith y bydd ansicrwydd Brexit yn ei chael arnyn nhw, ond mae hyn hefyd yn wir am y Trydydd Sector. Mae'n dylanwadu ar ei allu i gynllunio, cyllidebu a recriwtio a chadw staff.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinelliad cychwynnol o hyd a lled yr effaith y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd ei chael ar deuluoedd a chymunedau.  Rhaid inni gydweithio i gefnogi a chynyddu gallu'r sector i wrthsefyll effeithiau Brexit. Gallwn wneud hyn drwy'r dulliau gwahanol a nodir yn yr adroddiad a thrwy weithio gyda'n gilydd tuag at nod cyffredin.

Drwy gydweithio â'n partneriaid ac â rhanddeiliaid allweddol, megis Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit, gallwn ei gwneud yn bosibl i sefydliadau weld cyfleoedd a symud ymlaen mewn ffordd gadarnhaol a'u hannog i wneud hynny; gan feddwl, cynllunio a gweithio mewn ffyrdd newydd er lles pennaf pobl a chymunedau ledled Cymru.

Fel llywodraeth gyfrifol, mae ein cynlluniau ar gyfer Brexit yn dwysâu, a byddwn yn parhau i gynllunio ar gyfer pob canlyniad posibl, er gwaethaf yr ansicrwydd cysylltiedig ar hyn o bryd.

Dyna pam y byddwn yn cefnogi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, drwy ein Cronfa Bontio Ewropeaidd o £50m, i ddatblygu porthol ar-lein dwyieithog i gefnogi cyrff y Trydydd Sector. Bydd hyn yn eu galluogi i gael gafael ar yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn bod mewn sefyllfa gryfach yn dilyn Brexit a chefnogi eu twf cynaliadwy. Bydd y porthol hefyd yn gweithredu fel adnodd ymgysylltu i feithrin rhwydweithiau cynaliadwy mwy rhwng llywodraeth leol, cyrff rhanbarthol, y sector preifat a'r Trydydd Sector. Bydd hyn o fudd, nid dim ond i'r Trydydd Sector, ond i'r rheini sy'n dibynnu ar ei wasanaethau a'n cymunedau.