Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gen i hysbysu aelodau bod cymorth ariannol ychwanegol ar gael i’r rheini sydd wedi’u heintio â hepatitis C a/neu HIV drwy waed neu gynhyrchion gwaed halogedig. Mae effaith sylweddol heintiau fel hyn ar fywydau unigolion wedi bod yn destun trafodaethau helaeth yn siambr y Senedd.

Bydd aelodau’n ymwybodol bod 4 adran iechyd y DU wedi cytuno mewn egwyddor i unioni’r gwahaniaethau ym mis Gorffennaf 2019. Ers hynny, mae swyddogion wedi gweithio gyda’u swyddogion cyfatebol a’r rheini yn Swyddfa Cabinet y DU i gysoni’r gwahaniaethau hynny.

Heddiw, mae Trysorlys y DU wedi cyhoeddi y bydd yn ariannu nifer o newidiadau i bedwar cynllun y DU er mwyn gweithio i sicrhau cydraddoldeb. Caiff y cyllid hwn ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019. Ar gyfer ein buddiolwyr sy’n derbyn taliadau ex-gartia ar hyn o bryd drwy law ein partneriaid yng Nghynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS), caiff y cynllun ei ddiwygio fel a ganlyn:

  • Bydd ein taliadau ex-gratia blynyddol rheolaidd yn cynyddu i’r cyfraddau a gaiff eu talu ar hyn o bryd yn yr Alban a Lloegr
  • Bydd taliadau ar gyfer partneriaid mewn profedigaeth yn cynyddu i 100% o daliad y buddiolwyr ym mlwyddyn 1, a 75% ym mlwyddyn 2 a blynyddoedd dilynol yn unol â’r sefyllfa yn yr Alban
  • Caiff yr holl daliadau uchod eu hôl-ddyddio i fis Ebrill 2019
  • Bydd y cyfandaliad ar gyfer buddiolwr Hepatitis C Cam 1 yn cynyddu o £20,000 i £50,000, gydag £20,000 yn ychwanegol yn daladwy os bydd buddiolwr cam 1 yn symud i gam 2. Mae cyfanswm y cyfandaliad sy’n daladwy i fuddiolwyr Hepatitis C yn parhau yn £70,000. Mae hwn yn unol â’r sefyllfa yn yr Alban, a chaiff ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2017
  • Bydd cyfandaliadau ar gyfer HIV (£80.5K) yn newid i gyd-fynd â Lloegr, a chant eu hôl-ddyddio i fis Ebrill 2017
  • Caiff taliadau tanwydd gaeaf eu talu yn ogystal o fis Ebrill 2021 ymlaen

Bydd cynlluniau eraill y DU nawr yn ein dilyn ni ac yn talu’r budd-dal marwolaeth o £10,000 pan fydd buddiolwr yn marw.

Mae ein cynlluniau cymorth seicolegol pwrpasol, sydd ar gael drwy WIBSS, wedi bod ar waith ers 2019 ac mae ar gael i bawb sydd wedi’u heintio a’u teuluoedd. Nodaf fod cynlluniau eraill y DU bellach yn cynnig cymorth tebyg i’w buddiolwyr.

Rydym yn parhau i ymrwymo i weithio i unioni’r gwahaniaethau rhwng y cynlluniau, a byddwn yn gweithio gyda WIBSS i roi gwybod i’r buddiolwyr beth yw’r newidiadau hynny. Bydd buddiolwyr yn parhau i dderbyn eu taliadau presennol hyd nes y caiff y newidiadau eu gwneud. Disgwyliwn y bydd modd iddynt wneud taliadau ychwanegol lle y bo gofyn erbyn diwedd y flwyddyn galendr, ac yn gynt na hynny os yw’n bosibl.

Rwyf hefyd wedi cytuno gyda’m cyd-Weinidogion Iechyd y bydd unrhyw newidiadau i gynlluniau cenedlaethol yn y dyfodol yn destun ymgynghoriad ar draws y pedair gweinyddiaeth.

Dyma newyddion da i fuddiolwyr a’u teuluoedd.

Rydym yn cyhoeddi’r datganiad ysgrifenedig hwn yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol mewn ymateb i’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU heddiw, er mwyn sicrhau bod trigolion Cymru sy’n cael eu heffeithio gan y cynllun yn cael gwybod sut y mae’r newidiadau’n berthnasol iddyn nhw.