Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'r fframwaith cyllidol, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer craffu annibynnol ar ei rhagolygon ar gyfer refeniw trethi datganoledig er mwyn eu cynnwys yng Nghyllideb 2018-19. Rwy’n falch o allu rhannu'r newyddion diweddaraf ynghylch y trefniadau ag Aelodau'r Cynulliad.

Yn dilyn proses gaffael gystadleuol, penodwyd tîm o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor i ymgymryd â'r gwaith. Amcanion y contract yw:

  • Craffu a rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch rhagolygon Llywodraeth Cymru ar gyfer trethi datganoledig – treth trafodiadau tir, treth gwarediadau tirlenwi ac ardrethi annomestig – er mwyn eu cynnwys yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19;
  • Rhoi cyngor ar wella’r methodolegau ar gyfer llunio rhagolygon y dyfodol.

Caiff adroddiad sy'n cynnwys crynodeb o’r asesiad o'r amcanion hyn ei gyhoeddi ar y cyd â Chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

Byddaf yn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y trefniadau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod maes o law.