Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r manylion diweddaraf am y gwaith i wella’r A55 ym Mhenmaenbach.

Rwyf wedi derbyn gohebiaeth am y mater hwn ac rwy’n deall fod y gwaith wedi achosi cryn rwystredigaeth i ddefnyddwyr y ffordd ddeuol. Yn anffodus, cafwyd oedi hirach nag arfer yr wythnos cyn diwethaf ac roedd ymddygiad gwael rhai gyrwyr yn amharu ar ein hymdrechion i leihau’r tagfeydd.

Nid ydym yn gallu ailagor y twnnel yn llwyr i gerbydau sy’n teithio tua’r gorllewin yn ystod y dydd oherwydd byddai hynny’n estyn cyfnod y rhaglen waith cyffredinol yn sylweddol, peri rhagor o risg i iechyd a diogelwch a chynyddu costau yn sylweddol. Fodd bynnag, fe wnaethon ni dynnu ymaith y mesurau rheoli traffig i gyfeiriad y dwyrain yn ystod y dydd ar y penwythnos er mwyn lleihau tagfeydd. Mae arwyddion rwan wedi’u gosod i geisio cyfyngu ar nifer y cerbydau fydd yn defnyddio ffordd Bwlch Sychnant.

Erbyn hyn, mae’r tagfeydd sylweddol a digwyddodd yn ddiweddar wedi lleihau ac mae’n debygol y bydd llai fyth o oedi wrth i’r gaeaf nesáu. Mae ein contractwyr yn gweithio 24/7 i gwblhau’r cynllun cyn y Nadolig. Ein nod yw cwblhau holl waith y gaeaf cyn Pasg 2016 er mwyn i’r A55 fod yn gwbl glir o fesurau rheoli traffig cyn i’r embargo ar waith ffordd ddechrau. Bydd yr embargo’n parhau o’r Pasg i fis Medi 2016.

Rwyf wedi ysgrifennu o’r blaen at Aelodau’r Cynulliad ynghylch ein rhaglenni gwaith ar gyfer yr A55. Mae manylion y cynllun gwaith penodol hwn wedi’u cyhoeddi ar wefan Traffig Cymru, lle bydd y newyddion diweddaraf bob amser ar gael. Hefyd, cyhoeddwyd Datganiad i’r Wasg a gosodwyd arwyddion ar ymyl y ffordd cyn i’r gwaith ddechrau.

Mae gwaith pellach yn yr arfaeth ar gyfer twneli Conwy a Pen-y-Clip ym mis Chwefror a Mawrth ond bydd y gwaith hwnnw’n effeithio llawer llai ar y traffig ac ar y cymunedau o amgylch o’i gymharu â’r effeithiau a achoswyd gan y gwaith ym Mhenmaenbach.

Mae’n bwysig cofio bod y gwaith hwn yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £42 miliwn i wella diogelwch y ffordd ddeuol  hon, sydd mor allweddol i seilwaith trafnidiaeth y Gogledd.