Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Cymerwyd camau pendant ar fyrder gennym yn dilyn yr adroddiad beirniadol, a gyhoeddwyd fis Awst diwethaf, gan yr ymchwiliad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Estyn ar drafod a rheoli honiadau o gamymddwyn proffesiynol yn Sir Benfro.  Cyhoeddwyd cyfarwyddyd gennym yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor fynd i’r afael â’r meysydd sydd o bryder dybryd, i gyflwyno cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r methiannau a nodwyd yn yr adroddiad, ac i weithio gyda’r Bwrdd Cynghori a benodwyd gennym i roi cymorth ac i herio’r awdurdod lleol wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu.  

Roedd yn amlwg, wedi derbyn y cynllun gweithredu, bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud eisoes, ond nid oeddem wedi’n argyhoeddi y gallai Sir Benfro lwyddo i gymeryd y camau oedd eu hangen i newid heb gymorth a herio parhaus o’r tu allan.  Ym mis Hydref, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gennym, yn cyhoeddi penodi Bwrdd Cynghori’r Gweinidogion ar Sir Benfro i roi’r cymorth a’r her hwnnw, ac rydym yn nawr yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi ar ei waith a’r ffordd ymlaen.  

Mae’r Bwrdd wedi archwilio’r ffeithiau’n drylwyr, trwy waith ymchwil desg a thrwy ymweld â Sir Benfro i gyfweld yr uwch swyddogion, staff rheng flaen allweddol ac aelodau sydd wedi’u hethol.  

Ers i’r Bwrdd ddechrau gweithio gyda’r awdurdod, cafwyd mwy o dryloywder, gyda cyfarfodydd pwysig yn cael eu dogfennu’n iawn a’r papurau’n cael eu dosbarthu i’r Cyngor llawn; darparwyd gwybodaeth ble nad oedd dim ar gael cyn hynny; cafwyd mwy o gysylltiad rhwng y Prif Weithredwr ac aelodau sydd wedi’u hethol; a chymorth broffesiynol gyda craffu.  Mae aelodau Panel Diogelu y Prif Swyddogion wedi’i ddiwygio ac mae AGGCC wedi nodi gwelliant yn ymateb yr awdurdod i geisiadau yr Arolygiaeth am dystiolaeth.    

Roedd y Bwrdd Cynghori Gweinidogion blaenorol wedi nodi’r angen i wella democratiaeth a chraffu trwy ddiwygio Cyfansoddiad y Cyngor, ac yn dilyn her gan Fwrdd Cynghori’r Gweinidogion ar Sir Benfro, mae’r gwaith hwn wedi’i gyflymu.  Mae’r aelodau sydd wedi’u hethol bellach wedi derbyn yn gyffredinol yr angen i symud o ddiwylliant swyddogion cryf ble y mae craffu a thrafodaeth agored mwy neu lai yn absennol.  

Ond nid newyddion da yw’r cyfan.  Mae’r Bwrdd yn anghytuno gyda honiad yr awdurdod nad yw’r swyddogion bellach yn ymwrthod â’r newid.  Er bod brwdfrydedd ac ymrwymiad staff y rheng flaen wedi creu argraff fawr ar y Bwrdd, mae’r diwylliant ar y lefel uchaf yn parhau i fod yn destun pryder.  Noder bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi dod i’r casgliad yn ei adroddiad bod y Cyngor yn tueddu i fod yn rhy hunanfodlon ac anffurfiol, gyda throsolwg ar lefel uwch ac yn wleidyddol o wasanaethau allweddol yn annigonol.  

Mae hanesion diweddar ar y cyfryngau wedi tynnu sylw at rai o’r anawsterau sy’n parhau.  Mae tueddiad i ofyn am gyngor ar faterion o bwys y dylai’r awdurdod ei hun fod yn eu datrys ar fyrder, ac yn derfynol; methu gwahaniaethu rhwng gwybodaeth y dylid ei rhannu a’r wybodaeth y byddai’n amhriodol, os nad yn niweidiol, ei rhannu; a’r methiant cyson i fethu â mynd i’r afael â’r pryderon difrifol sy’n cael eu codi gan adroddiad ar yr Uned Cyfeirio Disgyblion.  

Mae’r Bwrdd wedi nodi meysydd o fewn ei gynllun gwaith sydd i’w datblygu.  Mae’r rhain yn cynnwys parhau i herio a chefnogi’r broses o ddiwygio Cyfansoddiad y Cyngor a’r broses graffu; mynd i’r afael â’r pryderon ynghylch rhedeg y Bwrdd Lleol Diogelu Plant; herio’r awdurdod a’r asiantaethau sy’n bartneriaid i ddangos ymrwymiad gwirioneddol i wasanaeth eirioli sy’n hyrwyddo llais y plentyn; a mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiad rhwng addysg a gwasanaethau cymdeithasol, a rhwng llywodraethu corfforaethol yr awdurdod ac arferion gweithredol.    

Mae’r Bwrdd wedi nodi bod camau wedi’u cymryd gan yr awdurdod i fynd i’r afael â’r gwendidau hyn, a bydd yn gweithio gyda’r awdurdod i sicrhau bod y gwelliannau yn parhau ac yn cael eu cynnwys yn niwylliant y sefydliad ar bob lefel.    

Bu’r Bwrdd yn amlwg yn rym positif i newid pethau.  Mae’n amlwg, fodd bynnag, bod llawer o waith i’w wneud eto, ac mae’n hanfodol ein bod yn parhau i bwyso ar yr awdurdod.  Rydym yn arbennig o awyddus i gadw’r momentwm yn ystod cyfnod yr etholiad pan fydd gallu Aelodau sydd wedi’u hethol  i wneud swyddogion yn atebol yn cael ei gyfaddawdu.  Rydym felly wedi gofyn i’r Bwrdd sicrhau bod ei aelodau yn treulio amser pob wythnos yn Sir Benfro, yn rhoi cymorth parhaus ac yn herio’r swyddogion yn ystod y cyfnod hwn.  

Rydym wedi gofyn i’r Bwrdd baratoi adroddiad erbyn diwedd Ebrill, fydd yn llywio’r dull o weithio gyda’r Cyngor newydd.  Rydym hefyd wedi gofyn i’r Bwrdd gyfarfod y Cyngor llawn newydd cyn gynted â phosib yn ystod mis Mai.  Rydyn ni’n bwriadu cyfarfod yr Arweinydd newydd a’r Cabinet cyn gynted â phosib, gyda’r Bwrdd, a byddwn yn parhau i fonitro’r datblygiadau yn fanwl.    

Mewn datganiadau blaenorol, rydym wedi nodi’r gwaith parhaol sy’n cael ei wneud yn Sir Benfro gan amrywiol arolygiaethau ac asiantaethau eraill.  Mae’r rhain yn cynnwys ymchwiliadau gan AGGCC, Estyn, Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi i weithio aml-asiantaethol; arolwg yr Heddlu a’r Gwasanaethau Cymdeithasol o’r Unedau Cyfeirio Disgyblion; ac Arolygiaeth Arbennig Swyddfa Archwilio Cymru.  Bydd Swyddfa Archwilio Cymru ac AGGCC yn cynnal arolwg o brosesau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol ym mis Mai, gan ganolbwyntio ar addysg, a bydd yn ymuno ag Estyn am ail arolwg llawn ym mis Hydref.  Bydd yr arolygon hyn yn hanfodol i benderfynu ar y ffordd ymlaen.  

Mae penderfynu a oes angen ymyrraeth bellach yn dibynnu ar gyflymder a graddfa’r newidiadau yn Sir Benfro, a chasgliadau Bwrdd Cynghori’r Gweinidogion ar Sir Benfro ynglŷn â hyn.  Mae’r Cyngor wedi cael, ac yn parhau i gael cymorth helaeth i ddatrys ei broblemau.  Os na fydd hynny’n llwyddo i sicrhau datblygiadau digonol, byddwn yn cymryd camau pellach a phendant ar unwaith.