Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Mai 2015, yn dilyn adolygiad o'i pholisi ac ymgynghoriad cyhoeddus eang, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru bolisi o blaid rheoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd (GUA) yn y tymor hir trwy ei waredu'n ddaearegol. Mae mabwysiadu'r polisi hwn yn cynnig ateb parhaol ar gyfer rheoli GUA yn hytrach na'i adael yn broblem i'w datrys gan genedlaethau'r dyfodol. Mae'r polisi o waredu GUA yn ddaearegol wedi'i fabwysiadu ledled y byd fel yr opsiwn gorau a mwyaf diogel ar gyfer y tymor hir. Mae hefyd yn dilyn cyngor arbenigwyr annibynnol y Pwyllgor ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol.

Ar ôl mabwysiadu polisi o blaid gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol, ymunodd Llywodraeth Cymru â rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU i chwilio am un cyfleuster gwaredu daearegol (CGD) ar gyfer GUA Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cynhelir y rhaglen gan Radioactive Waste Management Ltd (RWM), is-gwmni sy'n perthyn i'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.

Er bod Llywodraeth Cymru o blaid gwaredu daearegol, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y caiff CGD ei adeiladu yng Nghymru na chwaith bod Llywodraeth Cymru'n gofyn am gael adeiladu CGD yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried na chlustnodi safleoedd neu gymunedau posibl ar gyfer CGD yng Nghymru. Mae ein polisi yn glir: ni chaiff CGD ei adeiladu yng Nghymru onid oes cymuned sy'n fodlon cynnig lleoliad iddo yn wirfoddol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn i'r ymagwedd wirfoddoli hon, sef y byddai cymuned a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad yn gofyn am drafodaeth â RWM ynghylch cynnig lleoliad i CGD. Gallai'r trafodaethau hyn bara hyd at ugain mlynedd, ond gallai'r gymuned dan sylw dynnu ei chynnig yn ôl unrhyw bryd yn y cyfnod hwnnw. Cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch cynnal CGD, byddai angen mesur cefnogaeth y cyhoedd yn y gymuned dan sylw. Ni cheir cynnal CGD oni cheir canlyniad positif i brawf o gefnogaeth y gymuned.

Ym mis Rhagfyr 2015, ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus arall, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad polisi oedd yn cynnig amlinelliad bras o'r trefniadau ar gyfer gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad i CGD yng Nghymru pe bai unrhyw rai yn gofyn am drafodaeth am hynny.

Rwyf am gyhoeddi ymgynghoriad arall nawr, i ofyn am ymatebion i gynigion ar gyfer trefniadau manwl ar gyfer gweithio gyda chymunedau yng Nghymru sydd am drafodaeth am gynnig lleoliad i CGD. Rydym am fabwysiadu trefniadau fydd yn adlewyrchu amgylchiadau arbennig Cymru ac a fydd yn gydnaws hefyd â'r rheini a fabwysiedir gan BEIS. Bydd hyn yn caniatáu i gymunedau yng Nghymru ddechrau trafod â RWM ar yr un lefel â chymunedau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal ag angen cymuned fyddai'n fodlon lleoli CGD yng Nghymru, bydd angen cymeradwyaeth i’w achosion diogelwch ar RWM gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) o ran diogelwch a sicrwydd niwclear, a chan Gyfoeth Naturiol Cymru o ran diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. Bydd agen cymeradwyaeth y system gynllunio yng Nghymru ar gyfer unrhyw CGD yng Nghymru.

Byddaf yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn cyn mabwysiadu unrhyw drefniadau manwl ar gyfer gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad yng Nghymru.