Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddydd Gwener, 24 Chwefror, penderfynodd yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) ddiddymu trwydded Van Air fel cludwr tramor i hedfan yng ngofod y DU yn sgil digwyddiad ar daith rhwng Ynys Manaw a Belfast yn ystod Storm Doris.  Er mwyn cynnal y Gwasanaeth Awyr  Mewnol, penderfynodd Van Air is-gontractio’r gwasanaeth i’r cwmni awyr o Ddenmarc, North Flying, a’r rheini sydd wedi bod yn darparu’r gwasanaeth dros y bythefnos ddiwethaf. 

Yn ôl y contract a lofnodwyd rhwng Van Air a Gweinidogion Cymru, roedd gofyn i Van Air ddarparu ystod lawn o wasanaethau, o ddarparu ehediadau diogel ar y llwybr i ddarparu gwasanaethau ategol i deithwyr gan gynnwys tocynnau, gwasanaethau cwsmeriaid a marchnata.  Roedd Van Air wedi contractio’r swyddogaethau hyn i Citywing o Ynys Manaw. 

Nos Wener, 10 Mawrth, cyhoeddodd Citywing fod y cwmni wedi dod i ben, hynny yn uniongyrchol am fod Van Air wedi colli ei drwyddedau i hedfan yn y DU.  O’r herwydd, nid oedd modd i Wasanaeth Awyr Mewnol Cymru barhau heb ddarparu rhywbeth yn ei le. 

Gyda help a chefnogaeth Eastern Airways, y CAA, Meysydd Awyr Caerdydd ac Ynys Môn a’r RAF yn y Fali, rydym wedi sicrhau cytundeb tymor byr gydag Eastern Airways i sicrhau nad yw defnyddwyr y gwasanaeth yn colli allan.  Mae’n dda gen i gadarnhau yr hedfanodd pob awyren fel arfer bore yma (13 Mawrth) ac y gwnaiff Eastern Airways anrhydeddu pob tocyn ar gyfer teithio’r wythnos hon. 

Bu’r penwythnos a aeth heibio yn un caled.  Oherwydd cwymp Citywing, bu’n rhaid inni symud yn gyflym i gael hyd i gwmni arall i gynnal y gwasanaeth.  Daeth Eastern Airways i’r adwy yn hyn o beth, ac rydym wedi cytuno ar gontract treigl gyda nhw fel bod y teithiau sydd yn yr arfaeth yn codi fel arfer.  Rydym wedi defnyddio’r gyllideb y byddem wedi’i defnyddio ar gyfer Van Air a Citywing a byddwn nawr yn siarad ag Eastern Airways am gost trefniadau mwy tymor hir.  

Fel y gwyddoch mae’n siŵr, gofynnais y llynedd am adolygiad trylwyr o Wasanaeth Awyr Mewnol Cymru i edrych ar nifer o opsiynau, o ddod â’r gwasanaeth i ben yn llwyr i newid patrymau’r gwasanaeth, cynyddu’r ddarpariaeth a chynyddu maint yr awyrennau.  Mae’r gwaith hwnnw bellach wedi’i gwblhau ac rydym wrthi’n dadansoddi’r canfyddiadau.  Am nifer o resymau, rydym wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl i gyhoeddi’r adroddiad ond rwy’n rhagweld ei gyhoeddi yn yr wythnosau i ddod. 

Bydd angen imi ystyried argymhellion yr adolygiad law yn llaw â’r problemau diweddar â’r gwasanaeth a’m bwriad yw gwneud cyhoeddiad cyn hir ynghylch dyfodol tymor hir y gwasanaeth awyr hwn.