Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn colli cyllid yr UE, cyhoeddais ym mis Mai 2022 ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £20.9m y flwyddyn, hyd at fis Mawrth 2025, i barhau â gwasanaeth cymorth Busnes Cymru. Yn dilyn diweddariad llawn o'r gwasanaeth, rwy'n falch o gyhoeddi fod y gwasanaeth yn gwbl weithredol.

Mae gwasanaethau Busnes Cymru yn cyflawni ein huchelgeisiau a amlinellir yn y Genhadaeth Economaidd ddiweddar ac ar ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, decach a gwyrddach. 

Rwy’n gallu cadarnhau bod gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru yn gonsortiwm sy'n cynnwys Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaeth Datblygu Cymru, UnLtd, CGGC ac a arweinir gan Cwmpas  i ddarparu cyngor busnes arbenigol i'r sector.

Dyfarnwyd Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes Cymru i Bartneriaeth Menter Cymru (EPC), partneriaeth consortia rhwng Busnes mewn Ffocws, M-Sparc a Menter Môn. 

Hefyd, ers mis Ebrill 2023, mae Gyrfa Cymru yn arwain y gwaith o gyflwyno Syniadau Mawr Cymru mewn ysgolion i gael mwy o integreiddio entrepreneuriaeth â chyfleoedd cyflogaeth prif ffrwd ac alinio darpariaeth i gefnogi yr ysgol wrth weithredu'r cwricwlwm newydd.  Mae integreiddio pellach o dan Warant Pobl Ifanc wedi galluogi'r Biwro Cyflogaeth a Menter gyda addysg bellach a chymorth grant pellach i addysg uwch i gyflymu entrepreneuriaeth myfyrwyr tan fis Mawrth 2025.

Cafodd contract gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf Busnes Cymru ei ddyfarnu ym mis Mehefin 2023 i Fenter Partneriaeth Cymru. Mae'r gwasanaeth yn agored i unrhyw fusnes micro neu fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, sy'n ceisio creu gwydnwch, gwella cynhyrchiant neu wireddu uchelgeisiau ar gyfer twf.  Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cymorth cynghori arbenigol gan gynnwys cyflogaeth, sgiliau a gwaith teg, cyngor datgarboneiddio, ochr yn ochr â'n cynllunio busnes ac ariannol ar gyfer twf busnes.

Cafodd contract Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, ei ddyfarnu i Newable International Ltd. Bydd y contract hwn yn dechrau o 1 Ebrill 2024 a bydd y gynulleidfa darged ar gyfer y gwasanaeth hwn yn cynnwys busnesau  twf uchel cyn-refeniw a sefydledig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, a all ddangos y potensial ar gyfer twf uchel cyflym mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy, trwy gyflogaeth o ansawdd, allforio a buddsoddi dros y 5 mlynedd nesaf.  

Mae'r gwasanaeth yn darparu hyblygrwydd i addasu i flaenoriaethau llywodraeth ac economaidd newydd. Bu'r pontio rhwng contractau yn llyfn heb unrhyw doriad mewn gwasanaeth i gleientiaid.

Hyd yn hyn, yn ystod tymor y llywodraeth hon, mae Busnes Cymru wedi cynorthwyo 6,564 o unigolion i ddatblygu cynigion busnes, helpu i ddechrau 2,901 o fusnesau newydd, cynorthwyo 3,490 o entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig i ddiogelu 4,525 o swyddi a helpu i greu 9,909 o swyddi newydd. Yn ystod yr un cyfnod mae Llinell Gymorth Busnes Cymru wedi ymdrin â dros 33,500 o ymholiadau, ymwelwyd â gwefan Busnes Cymru bron 10.3 miliwn o weithiau, ac mae gwasanaeth Busnes Wales wedi cefnogi dros 94,500 o fentrau drwy ddarparu gwybodaeth iddynt a’u cyfeirio at wasanaethau eraill. Ers lansio'r Warant i Bobl Ifanc, mae dros 509 o bobl ifanc wedi dechrau busnes ac mae dros 403 wedi derbyn Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc. 

Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn parhau i gael effaith gadarnhaol gyda phob £1 a fuddsoddir yn darparu hyd at £18 o werth ychwanegol, a busnes newydd a gefnogir gan Busnes Cymru ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn gweithredu ar ôl pum mlynedd o'i gymharu â busnes heb gefnogaeth.

Atodiad
Busnes Cymru mis Mai 2021 – mis Ionawr 2024
Awdurdod Lleol / RhanbarthUnigolion wedi’u helpu Mentrau newydd wedi’u creu Swyddi wedi’u diogeluSwyddi wedi’u creu (cyfwerth ag amser llawn) Mentrau wedi’u helpu
Sir y Fflint2581006535692
Wrecsam22892195295107
Conwy292155195395153
Sir Ddinbych26410166201106
Gwynedd270148138414148
Ynys Môn145897419861
CYFANSWM Y GOGLEDD1,4576857331,859667
  
Powys309178741497270
Ceredigion14090470272100
CYFANSWM Y CANOLBARTH4492681,211769370
  
Sir Gaerfyrddin 489354304954315
Castell-nedd Port Talbot302124103298128
Sir Benfro 2051321301,069142
Abertawe 578221832841253
CYFANSWM Y GORLLEWIN1,5748311,3693,162838
  
Caerdydd8492898051,424446
Sir Fynwy203828273123
Casnewydd32411947310151
Bro Morgannwg24810181198156
Blaenau Gwent17067220549
Pen-y-bont ar Ogwr30912796373161
Caerffili29311550423191
Merthyr Tudful99401217346
Rhondda Cynon Taf39210967569205
Torfaen197684417187
CYFANSWM Y DE-DDWYRAIN3,0841,1171,2124,1191,615
  
CYFANSWM6,5642,9014,5259,9093,490
Y Gwarant i Bobl Ifanc 
Awdurdod Lleol / Rhanbarth

Busnesau wedi’u dechrau gan bobl o dan 25

(Mai 2021 – Ion 2024)

Nifer y Grantiau i Ddechrau Busnes i Bobl Ifanc (ers Gorffennaf 2022)
Sir y Fflint2118
Sir Ddinbych924
Conwy1916
Gwynedd2511
Wrecsam1413
Ynys Môn159
CYFANSWM Y GOGLEDD10391
  
Powys2518
Ceredigion3625
CYFANSWM Y CANOLBARTH6143
  
Sir Gaerfyrddin 4022
Abertawe4635
Castell-nedd Port Talbot2113
Sir Benfro4018
CYFANSWM Y GORLLEWIN14788
  
Sir Fynwy125
Caerdydd5350
Bro Morgannwg1817
Casnewydd1515
Rhondda Cynon Taff2522
Merthyr Tudful76
Pen-y-bont ar Ogor2415
Torfaen1115
Caerffili2225
Blaenau Gwent1111
CYFANSWM Y DE-DDWYRAIN198181
  
CYFANSWM509403