Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymrwymo i wella bywydau plant ac oedolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol o'r heriau y mae unigolion ag awtistiaeth a'u teuluoedd yn eu hwynebu'n ddyddiol ac mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau y gallant gael y cymorth sydd eu hangen arnynt, ar yr adeg y mae eu hangen arnynt.

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig ar ei newydd wedd. Mae'n ymateb i'r hyn y mae unigolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr wedi dweud sy'n bwysig iddynt. Y nod yw sicrhau bod anghenion oedolion a phlant ag awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr, yn cael eu deall er mwyn darparu'r cymorth sydd ei angen arnynt i wireddu eu canlyniadau llesiant eu hunain ac i fyw bywydau llawn. Mae'n egluro uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth effeithiol i bobl a phlant ag awtistiaeth.

Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i fabwysiadu dull cenedlaethol at awtistiaeth, a chyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Strategol gwreiddiol yn 2008. Ers i'r Cynllun Gweithredu Strategol gael ei gyhoeddi, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol i wella bywydau unigolion ag awtistiaeth. Mae ein llwyddiant i godi proffil ac ymwybyddiaeth o anhwylderau'r sbectrwm awtistig yn un enghraifft o hyn. Mae amrywiaeth helaeth o ddeunyddiau ar gael drwy ein gwefan sy'n arbennig ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Maent yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i unigolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y maes, wrth reswm. Cafodd ansawdd ein hadnoddau ei gydnabod yn y gynhadledd Awtistiaeth Ewrop ddiwethaf i gael ei chynnal ym mis Medi ac mae llawer o wledydd wedi gofyn inni am ein caniatâd i ddefnyddio ein deunyddiau.

Rydym wedi datblygu strwythurau cenedlaethol a lleol sy'n cynnwys sefydlu cydgysylltydd cenedlaethol ac arweinwyr a grwpiau cydlynu anhwylderau’r sbectrwm awtistig lleol. Mae hyn wedi helpu i godi'r proffil yn ogystal â datblygu gwasanaethau gwell a sefydlu gwasanaethau newydd.

Yn ôl gwerthusiad annibynnol a gynhaliwyd yn 2012, cafodd y strategaeth effaith gadarnhaol ar unigolion, eu teuluoedd, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol. Mae mwy o unigolion sydd ag awtistiaeth wedi cael eu hadnabod ac mae cyfraddau diagnosis wedi cynyddu. Mae'r cymorth y gall plant a phobl ifanc elwa arno mewn addysg hefyd wedi gwella, ac mae'r broses o bontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion hefyd wedi gwella.

Mae'r Cynllun Gweithredu Strategol ar ei newydd wedd yn amlinellu tri maes gweithredu â blaenoriaeth, yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym. Yn gyntaf, mae cael elwa ar asesiadau a diagnosis yn brydlon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a bod gwasanaethau priodol yn cael eu sefydlu i ddarparu'r cymorth angenrheidiol. Bydd diagnosis cynnar hefyd yn galluogi rhieni i ddeall anghenion eu plentyn a chwilio am gymorth priodol yn eu rôl ofalu. Mae llawer o unigolion ag awtistiaeth nad ydynt yn cael eu hadnabod neu'n cael diagnosis pan fyddant yn blant ond gallai fod o gymorth iddynt allu cael mynediad at wasanaethau asesu pan fyddant yn oedolion. Rydym am sicrhau bod llwybr asesu safonol ar waith a bydd yna amser aros newydd o 26 o wythnosau o'r cyfnod pan fydd unigolyn yn cael ei atgyfeirio hyd at yr apwyntiad asesu cyntaf. Bydd gwelliannau hefyd i wasanaethau diagnostig i oedolion drwy'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol.

Yn ail, bydd gan blant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a'u gofalwyr wahanol anghenion cymorth, gan ddibynnu ar eu hoed a'u gallu. Er enghraifft, mae oedolion ag awtistiaeth yn gallu profi teimladau o orbryder ac arwahanrwydd cymdeithasol. Maent hefyd yn gallu profi anawsterau mewn addysg, a'i chael hi'n anodd dod o hyd i swydd a'i chadw, ac anawsterau hefyd wrth geisio meithrin perthynas a chyfeillgarwch. Mae'r cynllun gweithredu yn cefnogi anghenion y grwpiau hyn i oresgyn rhwystrau o ddydd i ddydd mewn addysg, hyfforddiant, cyflogaeth ac o ran cael mynediad at wasanaethau.

Yn olaf, byddwn yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid i nodi bylchau mewn gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant. Byddwn yn sicrhau bod unigolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr, yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael iddynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn rhagor o adnoddau a deunyddiau i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a darparu hyfforddiant ar draws grwpiau proffesiynol – yn arbennig i'r grwpiau hynny o bobl ag awtistiaeth sydd wedi dweud wrthym fod angen mwy o ymwybyddiaeth a hyfforddiant.  Rydym yn adeiladu ar ein rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd, gan ddatblygu ar adnoddau newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, ysgolion uwchradd ac Addysg Bellach. Rydym yn canolbwyntio hefyd ar hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol ac iechyd meddwl, unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaethau hamdden, a chyflogwyr.

Ym mis Ebrill, dechreuwyd cyflwyno'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol newydd, oedd yn nodi newid pwysig i’r ffordd mae gofal a chymorth yn cael eu darparu. Mae'r ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu hwn yn chwarae rôl allweddol i wireddu uchelgeisiau'r Cynllun Cyflawni Strategol a bydd yn cael cymorth o £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf.

Bydd gan y gwasanaeth integredig arloesol hwn dimau arbenigol newydd ym mhob ardal, a fydd yn darparu gwasanaethau diagnostig i oedolion. Bydd hyn yn cefnogi'r gwelliannau yr ydym yn eu darparu yng nghyd-destun gwasanaethau diagnostig, triniaethau a gwasanaethau cymorth i blant drwy'r rhaglen 'Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc', sy'n cael cymorth o £2 miliwn o gyllid y flwyddyn. Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth a chyngor ehangach ar gyfer plant ac oedolion, yn ogystal â'u teuluoedd neu ofalwyr. Bydd gweithwyr proffesiynol yn y maes yn gallu cael hyfforddiant a chymorth drwy'r rhaglen hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu drwy bolisïau a deddfwriaeth newydd i gymryd camau breision mewn perthynas â gwasanaethau a chymorth i unigolion ag awtistiaeth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gweddnewid y ffordd yr ydym yn diwallu anghenion pobl gydag anghenion gofal a chymorth yng Nghymru, gan gynnwys unigolion ag awtistiaeth a'u gofalwyr.  O ran penderfyniadau am eu gofal a'u cymorth, yr unigolyn sy’n ganolog o dan y Ddeddf, ac mae'n rhoi pŵer i'r unigolyn ddiffinio ei ganlyniadau ei hun ac yn rhoi ffocws arbennig ar awtistiaeth.

Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a sefydlwyd o dan y Ddeddf honno yn gyfrifol am sicrhau bod mwy o wasanaethau gofal a chymorth integredig i ddiwallu anghenion eu pobl yn eu hardal leol. Mae awtistiaeth wedi cael ei nodi fel un o'r meysydd â blaenoriaeth ar gyfer integreiddio. Bydd angen i Fyrddau adrodd yn flynyddol ar gynnydd, gan gynnwys mewn perthynas â darparu'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol.  

Bydd cynllun cyflawni yn cyd-fynd â'r Cynllun Gweithredu Strategol, a fydd yn amlinellu mwy o fanylion am y camau penodol a fydd yn cael eu cymryd, gan gynnwys sut y byddant yn cael eu mesur a'u monitro. Bydd Grŵp Cynghori ar Weithredu yn cael ei sefydlu i fonitro'r ddarpariaeth a'r cynnydd. Bydd yr aelodau yn cynnwys unigolion ag awtistiaeth, gan gynnwys plant, yn ogystal â'u rhieni a'u gofalwyr. At hynny, bydd sefydliadau statudol a'r trydydd sector hefyd yn cael eu cynrychioli ar y grŵp.

Bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi i roi'r diweddaraf ar y cynnydd sy'n cael ei wneud a bydd y Cynllun Cyflawni Strategol a'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol hefyd yn cael eu gwerthuso'n annibynnol.

Rydym am weld gwir wahaniaeth yn y gwasanaethau, gofal a'r cymorth sydd ar gael i unigolion ag awtistiaeth. Rydym yn gwybod y bydd angen amser i gyflawni rhai o'n gwelliannau a'n camau ond byddwn yn monitro ac yn adrodd ar gynnydd.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r rhaglen waith hon a byddwn yn parhau i adolygu'r angen am ddeddfwriaeth yn gysylltiedig ag awtistiaeth yn benodol.

http://gov.wales/topics/health/socialcare/asd/?skip=1&lang=cy



Atodiad  

Mae'r testun a ganlyn yn amlinellu sut y mae deddfwriaeth a pholisïau presennol neu arfaethedig yn bodloni'r gofynion a’r galwadau am fil awtistiaeth. Mae hyn y cynnwys y ddeddfwriaeth bresennol yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ein cynlluniau ar gyfer diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r gwaith a fydd yn cael ei ddatblygu drwy'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar ei newydd wedd a'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol.

Yng Nghymru, mae ein deddfwriaeth yn gwneud mwy na'r hyn y darperir ar ei gyfer yn Neddf Awtistiaeth Lloegr, gan ei fod yn gynllun i bob oed, yn hytrach nag oedolion yn unig.  

Dyletswydd i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Awtistiaeth

  • Er nad oes gennym ddeddfwriaeth eisoes yn gysylltiedig â sefydlu strategaeth awtistiaeth, Cymru oedd y genedl gyntaf i ddatblygu strategaeth, a hynny yn 2008. At hynny, rydym newydd ddatblygu a chyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar ei newydd wedd ynghyd â Chynllun Cyflawni. 

Dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) i weithredu o dan gyfarwyddyd

  • I'r graddau y mae'r bil arfaethedig yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i weithredu dan gyfarwyddyd, nid yw'r rhain yn mynd y tu hwnt i'r dyletswyddau perthnasol yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyhoeddi cod ar awtistiaeth, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ac mae'n ofynnol i awdurdodau lleol weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol mewn cod.

Gwasanaethau a llwybrau diagnostig

  • Mae'r Cynllun Gweithredu Strategol yn cynnwys camau penodol i wneud gwelliannau i wasanaethau asesu a diagnostig i blant. Mae'r gwelliannau hyn yn cynnwys rhoi llwybr asesu safonol cenedlaethol ar waith. Bydd yna hefyd darged amser aros newydd o 26 o wythnosau o'r cyfnod pan fydd unigolyn yn cael ei atgyfeirio hyd at ei apwyntiad asesu cyntaf.
  • Bydd gwelliannau i wasanaethau diagnostig i oedolion yn cael eu cyflwyno drwy'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys rhoi model cenedlaethol ar waith ar draws Cymru gyfan. 

Llywodraethu a Monitro

  • Mae'r Cynllun Gweithredu Strategol yn cynnwys camau penodol ar gyfer monitro'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae'r rhain yn cynnwys sefydlu Grŵp Cynghori ar Weithredu i fonitro'r cynnydd a'r darparu. At hynny, bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi a fydd yn amlinellu'r cynnydd mewn perthynas â chamau penodol. Bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig hefyd yn cael ei werthuso'n annibynnol.
  • Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) hefyd yn cael ei werthuso.

Asesu, cymhwysedd a chynllunio

  • Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i asesu ar y cyd ofynion gofal a chymorth y boblogaeth, gan gynnwys gofalwyr. Rhaid iddynt bennu'r ystod a'r lefel o wasanaethau ataliol sydd eu hangen i ddiwallu'r anghenion a nodwyd. Mae ein canllawiau i awdurdodau lleol yn datgan yn glir bod rhaid i awtistiaeth fod yn thema graidd yn eu hadroddiad ar anghenion y boblogaeth.  
  • Bydd yr Adroddiadau ar Anghenion y Boblogaeth yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2017 a bydd yn ofynnol i ardaloedd ddatblygu Cynllun Ardal.  Bydd y rhain yn pennu'r gyfres o wasanaethau ataliol a fydd ar gael, a bydd rhaid iddynt gynnwys gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth. 

Hyfforddiant ar gyfer staff sy'n darparu gwasanaethau perthnasol

  • Mae'r Cynllun Gweithredu Strategol yn cynnwys camau i ddatblygu a chyflenwi adnoddau a deunyddiau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac eraill sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion ag awtistiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys pobl sy'n gweithio mewn addysg, iechyd, a gwasanaethau awdurdod lleol fel hamdden a thrafnidiaeth gyhoeddus.  
  • Bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol yn dod â staff arbenigol ynghyd, gan gynnwys o'r meysydd seicoleg, therapi lleferydd ac iaith, iechyd galwedigaethol a nyrsio. Bydd yn cynnwys timau cymunedol a fydd yn darparu cymorth un-i-un, yn arbennig ar gyfer oedolion nad ydynt yn gymwys am wasanaethau gofal cymdeithasol.
  • Yn gynharach yn ystod y flwyddyn, lansiwyd ein rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd, sy'n codi ymwybyddiaeth ar draws y gymuned ysgol gyfan. Rydym yn awr yn gweithio ar raglenni ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, ysgolion uwchradd ac Addysg Bellach. 

Cofrestr ar gyfer unigolion ag awtistiaeth

  • O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae'n ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chynnal cofrestri gwirfoddol ar gyfer plant anabl, a gallant hefyd lunio cofrestri ar gyfer oedolion anabl.   
  • O fis Ebrill 2017, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu inni ddata blynyddol ar unigolion ag anableddau â ganddynt gynllun gofal a chymorth. Bydd y data hyn yn cael eu dadansoddi yn ôl oed ac anabledd, a bydd hyn yn cynnwys awtistiaeth. 

Cynllunio ar gyfer pontio o wasanaethau i blant a gwasanaethau i oedolion

  • Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn Ddeddf i bob oed, felly mae'n mynd i'r afael â materion yn gysylltiedig â phontio. Bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol hefyd yn wasanaeth i bob oed. Mae gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyfrifoldeb dros sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chymorth ar gael i ddiwallu anghenion unigolion yn eu hardal leol. Byddant yn sicrhau bod awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth gyda'i gilydd yn effeithiol. 
  • Bydd Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cyflwyno system newydd ar gyfer plant a phobl ifanc a fydd yn sicrhau hawliau teg a threfniadau pontio gwell rhwng lleoliadau.