Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd yw’n rhaglen flaenllaw i ymyrryd yn gynnar ar gyfer teuluoedd sydd â pherygl bod eu plant yn cael eu rhoi mewn gofal  pan fo rhieni’n camddefnyddio sylweddau ac alcohol yn ffactor sylweddol sy’n cyfrannu at y sefyllfa.

Rwy’n falch o gael cyhoeddi heddiw fy mod wedi cychwyn deddfwriaeth i alluogi’r pedair ardal awdurdod lleol sy’n weddill, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd, gan gydweithio â’r Bwrdd Iechyd Lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i sefydlu timau. Bydd hyn yn golygu bod Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd yn weithio trwy Gymru gyfan. Mae hyn yn dipyn o lwyddiant, sy’n cau pen y mwdwl ar raglen a gychwynnwyd yn 2010. Mae hyn wedi’i gyflawni 10 mis cyn y dyddiad a ragwelwyd ar gyfer cwblhau’r gwaith o gyflwyno’r gwasanaeth ymyrryd hwn fesul cam.

Dengys corff o dystiolaeth bod ymyrryd yn gynnar mewn teuluoedd sydd â phroblemau yn dod â chanlyniadau gwell i’r teuluoedd hynny a’u plant. Mae Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd wedi eu hanelu at helpu’r teuluoedd hynny sydd wedi’u hatgyfeirio’n bennaf oherwydd bod rhiant yn camddefnyddio sylweddau ac alcohol, ond mae hefyd yn gallu helpu mewn perthynas â phroblemau eraill sy’n cyd-fynd â chamddefnyddio sylweddau ac alcohol yn y teuluoedd hynny, fel trais domestig a phroblemau iechyd meddwl.  

Mae gwerthusiad o’r tair ardal arloesi wreiddiol, sef Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Merthyr (fel consortiwm) a Wrecsam wedi dangos bod y Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd yng Nghymru wedi gweithio ac wedi llwyddo i atal plant nifer o deuluoedd rhag cael eu rhoi mewn gofal. Dengys adroddiad interim, oedd yn ymwneud â 2011/12, bod 85 o deuluoedd wedi cael cymorth yn y tair ardal arloesi.  Bydd adroddiad gwerthuso terfynol fydd yn ymwneud â’r cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2013 yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Hoffwn ategu fy niolch i’r Aelodau am eu cefnogaeth wrth sefydlu’r Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd. Diolch hefyd i’r timau sy’n gweithio gyda’r teuluoedd i wneud gwahaniaeth i’w bywydau a bywydau eu plant. Byddaf yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am ddatblygiadau i’r gwasanaeth hwn yn y dyfodol.