Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn y Datganiad Busnes ar 13 Mai, pan ofynnwyd cwestiynau am y canllawiau drafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ofal menywod iach a'u babanod yn ystod y cyfnod esgor, addawyd cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru.

Yn gyntaf, hoffwn ei gwneud yn glir fod darparu gwasanaethau mamolaeth diogel o ansawdd uchel yng Nghymru yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru. 

Mae'r ddogfen weledigaeth strategol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2011, yn datgan bod y sylfaen ar gyfer iechyd a lles yn dechrau yn ystod beichiogrwydd. O glefyd y galon i ordewdra, cyrhaeddiad addysgol a statws economaidd, mae’r misoedd cyn geni plentyn a’r blynyddoedd yn union ar ôl y geni'n hollbwysig i gyfleoedd bywyd y fam, ei phlentyn a’i theulu. 

Gwyddom y gellir gwella iechyd a hapusrwydd cenedlaethau i ddod trwy ddarparu gwasanaethau mamolaeth o safon uchel, a gwyddom hefyd fod beichiogrwydd yn sbardun pwerus ar gyfer newid. Mae hyn yn arbennig o bwysig, nid yn unig yng nghyd-destun y beichiogrwydd, ond hefyd am ein bod yn gwybod bod menywod, wrth wneud y newidiadau hyn i’w hiechyd ein hunain, yn dylanwadu’n sylweddol ar ddewisiadau ffordd o fyw eu plant a’r teuluoedd.

Felly, mae beichiogrwydd yn gyfle gwych i ddylanwadu ar iechyd a lles unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac mae’n hynod bwysig sicrhau bod y fam a’r plentyn yn ddiogel ac iach yn ymhell cyn yr enedigaeth. Mae'r weledigaeth strategol yn cyflwyno’r canlyniadau yr ydym eu heisiau i fenywod a’u babanod yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth, yn ogystal â'n disgwyliadau i GIG Cymru ddarparu gwasanaethau mamolaeth sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd yng Nghymru. 

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yw gwasaneth sy'n hyrwyddo beichiogrwydd a genedigaeth fel digwyddiad o bwys cymdeithasol ac emosiynol, lle caiff menywod a'u teuluoedd eu trin ag urddas a pharch. I bob mam, lle bynnag y mae’n byw a beth bynnag fo’i hamgylchiadau, bydd beichiogrwydd a genedigaeth yn brofiad diogel a chadarnhaol. Bydd hyn yn caniatáu i'r fam newydd, ei phartner, a'i theulu ddechrau ar eu bywydau fel rhieni gan deimlo'n hyderus, a chan deimlo eu bod yn gallu rhoi dechrau sefydlog mewn bywyd i'w plentyn, a'u bod yn cael eu cefnogi i wneud hynny. 
Mae'r gwaith o wella'r gwasanaethau mamolaeth yn mynd rhagddo ac mae'r Prif Swyddog Nyrsio'n cynnal cyfarfodydd o’r bwrdd perfformiad mamolaeth ddwywaith y flwyddyn, er mwyn mesur y cynnydd yn erbyn canlyniadau a mesurau perfformiad a bennwyd yn dilyn cyhoeddi'r ddogfen ar y weledigaeth strategol. 

Mae iechyd menywod beichiog yng Nghymru yn destun pryder. O ganlyniad i'r cyfraddau uchel o fenywod sy'n smygu yn ystod beichiogrwydd, mae'r byrddau iechyd wedi bod yn cydweithio â Iechyd Cyhoeddus Cymru i brofi dulliau newydd o gynnig cymorth i fenywod a'u partneriaid sydd am roi'r gorau i'r arfer. Yn sgil canlyniadau llwyddiannus y profi, bellach mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i gyflwyno’r gwasanaethau hyn ym mhob rhan o Gymru.

Mae cael gwasanaeth mamolaeth diogel o ansawdd uchel yn ddibynnol ar gael y nifer iawn o staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob bwrdd iechyd gydymffurfio â safonau gweithlu'r sector bydwreigiaeth a osodwyd gan ‘Birthrate Plus’ a chaiff y dull hwnnw ei fonitro ddwywaith y flwyddyn. Mae'n falch gennyf ddweud bod pob bwrdd iechyd yn cydymffurfio â'r safonau hynny.

Mewn perthynas â staffio ym maes obstetreg, mae recriwtio'n faes sy'n dipyn o her yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU. Ond nid yw'r byrddau Iiechyd wedi adrodd am unrhyw faterion penodol.

Ar 12 Mai, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ei ganllawiau drafft ar ofal menywod iach a'u babanod yn ystod y cyfnod esgor. Mae’n argymell y dylai menywod sy'n profi beichiogrwydd 'didrafferth' (risg isel) gael eu hannog i esgor mewn uned dan arweiniad bydwraig, yn hytrach na mewn ward esgor draddodiadol.  

Mae'r canllawiau wedi'u seilio ar adolygiad systematig Cochrane, a gynhaliwyd yn 2010, sy'n crynhoi'r canlyniadau ar gyfer menywod sy'n bwriadu esgor mewn uned dan arweiniad bydwraig. Yn ôl yr adolygiad roedd amgylchiadau'r uned dan arweiniad bydwraig yn gysylltiedig â mwy o enedigaethau normal a mwy o foddhad i'r fam, yn ogystal â llai o ymyriadau.

Ers 2002, y polisi yng Nghymru yw cefnogi menywod i wneud y penderfyniadau mwyaf addas iddynt hwy. Mewn trafodaeth â'u bydwraig, mae pob menyw iach sy'n cael beichiogrwydd didrafferth yn cael cynnig y cyfle i esgor gartref, neu mewn uned dan arweiniad meddyg ymgynghorol, ac os bydd y cyfleusterau ar gael, mewn uned dan arweiniad bydwraig.  Mae 15 o ganolfannau geni dan arweiniad bydwraig yng Nghymru sy'n cynnig opsiwn diogel arall yn lle rhoi genedigaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol.

Gwyddom ei bod yn ddiogel i fenywod 'risg isel' roi genedigaeth mewn uned dan arweiniad bydwraig neu yn y catref ond fod rhai menywod, waeth beth fo'r risg, yn dewis gofal dan arweiniad meddyg ymgynghorol. Bydd yr opsiwn hwnnw'n parhau i fod ar gael i bob menyw sy'n teimlo mai hwnnw yw'r dewis gorau iddynt ar gyfer rhoi genedigaeth.

O ran sicrhau bod menywod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am eu gofal, mae cydweithredu wedi bod yn thema ers tro wrth gynnal a datblygu gwasanaethau. Ers canol y 1980au, mae gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru wedi sefydlu pwyllgorau cyswllt gwasanaethau mamolaeth. Mae'r pwyllgorau hyn yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol yn cyfarfod i drafod a chynllunio sut i wella gwasanaethau lleol. Mae pob bwrdd iechyd wedi rhoi'r pwyllgorau hyn ar waith. Maent yn cael eu cadeirio gan un o ddefnyddwyr y gwasanaeth, sydd hefyd yn cael ei wahodd i fynd i gyfarfodydd y bwrdd perfformiad mamolaeth yn Llywodraeth Cymru.

Mae canlyniadau arolygon o fodlonrwydd yn cael eu hadrodd i'r byrddau perfformiad, ac mae'n falch gennyf nodi bod mwy na 85% o fenywod wedi dweud eu bod yn fodlon ar eu gofal.

Nod y Rhaglen Gydweithredol 1000 o Fywydau a Mwy ar Famolaeth yw gwella profiad a chanlyniadau menywod, babanod a'u teuluoedd. Yn dilyn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, mae cyfres o ymyriadau wedi'u datblygu a'u cyflwyno.

Y ddau faes y rhoddir sylw iddynt yw gwella'r broses o wybod bod cyflwr menyw yn dirywio'n sylweddol ac ymateb i hynny, ac atal, adnabod a rheoli thromboemboledd. Mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo i ddatblygu a gweithredu strategaethau sy'n anelu at leihau'r nifer o achosion o farw-enedigaethau. 

Er mwyn cynnal y momentwm hwn mae Rhwydwaith Cymuned Ymarferwyr Mamolaeth 1000 o Fywydau a Mwy wrthi'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd.  Bydd y rhwydwaith yn cynnwys rhanddeiliaid o’r byrddau iechyd, y Colegau Brenhinol a Llywodraeth Cymru. Y nod fydd parhau i lywio'r broses o safoni gofal mamolaeth ar hyd a lled Cymru.

Yn olaf, bydd y gwaith o ad-drefnu gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn ceisio sicrhau diogelwch ac ansawdd y gofal, yn ogystal â sicrhau bod ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn parhau i gael ei chynnal. Fe wyddom ei bod yn hanfodol i fuddsoddi ymdrechion i wella gwasanaethau mamolaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, os ydym am sicrhau bod ein teuluoedd a'n cymunedau yng Nghymru yn datblygu i fod yn iach ac yn hapus.