Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er mwyn parhau i allu buddsoddi, fel ein gwasanaethau newydd o Lyn Ebwy i Gasnewydd, ac i dalu costau cynyddol tra'n ceisio lleihau yr effaith ar deithwyr, rydym yn gweithredu cynnydd is na chwyddiant o 4.9% mewn prisiau trenau o 3 Mawrth 2024. Mae hyn yn unol â'r diwydiant rheilffyrdd ehangach.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i'w gwneud hi'n haws i deithwyr deithio. Ar hyn o bryd mae nhw'n treialu prisiau rheilffyrdd Talu Wrth Fynd newydd sbon yn Ne Cymru sy'n cynnig teithiau rhatach - tapio i mewn - tapio allan gan ddefnyddio cerdyn ffôn neu gerdyn banc.

De Cymru yw'r lleoliad cyntaf yn y DU y tu allan i Lundain lle y gall teithwyr ar y rheilffyrdd ddefnyddio'r dechnoleg troi i fyny a mynd hwn. Ar hyn o bryd mae teithwyr sy'n teithio rhwng Pontyclun, Caerdydd a Chasnewydd yn elwa o'r arloesedd hwn, gyda chynllun ehangach i gael ei gyflwyno i ddechrau ar gyfer ardal Metro De Cymru gan ddechrau gyda rheilffordd Glyn Ebwy y gwanwyn hwn.