Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y tân trasig yn Nhŵr Grenfell fis Mehefin 2017 yn aros yn ein cof am byth. Ni welwyd erioed o’r blaen gymaint o farwolaethau o achos tân mewn annedd.  Mae’n ddyletswydd arnom i gyd i wneud yr hyn y gallwn ni i atal trasiedi o’r fath rhag digwydd eto.

Rydym eisoes yn ymwybodol fod y tân wedi amlygu nifer o wendidau difrifol yn y gyfraith gyfredol ar ddiogelwch adeiladau. Ceir gormod o gyfleoedd i dorri corneli neu yn syml, gormod o gyfleoedd sydd yn caniatáu i’r risg gynyddu drwy esgeulustod. Rhaid cael gwared ohonynt. Rydym wedi cyhoeddi cynlluniau cynhwysfawr a radical i gyflawni hyn yn ein Papur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladau. Bydd hyn yn sicrhau bod blociau fflatiau yn cael eu cynllunio, eu hadeiladu a’u rheoli mewn modd sydd yn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl ac yn lleihau’r perygl o dân.

Ond i’r Gwasanaeth Tân ac Achub oedd yr her fwyaf uniongyrchol yn sgil y tân yn Nhŵr Grenfell. Canfuwyd yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus fod nifer o wersi gan y Gwasanaeth i’w dysgu. Nid mater o fai yw hynny: mae hynny i’w ddisgwyl o ddigwyddiad sydd ar raddfa mor ddigynsail a difrifol.  Cafwyd sawl argymhelliad yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus ynglŷn â’r ymateb brys i’r tân. Roedd y mwyafrif o’r argymhellion hynny wedi eu cyfeirio’n benodol at Frigâd Dân Llundain. Fodd bynnag, mae pob rheswm i gredu eu bod yn berthnasol yn ehangach. Mae’n hanfodol fod y Gwasanaeth yn gweithredu ar yr argymhellion er mwyn sicrhau bod gennym yr ymateb gorau posibl i unrhyw dân tebyg yn y dyfodol.

Ddiwedd 2019, gofynnais felly i fy Mhrif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub, Dan Stephens gwblhau adolygiad manwl ynghylch y modd mae ein tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn dysgu gwersi o Grenfell. Mae gan Dan brofiad helaeth o fod yn Brif Swyddog Tân yn Lloegr ac Awstralia, ac mae ganddo arbenigedd sylweddol mewn gweithrediadau diffodd tân. Mae ef bellach wedi cwblhau a chyhoeddi’r adolygiad. Hoffwn ddiolch i Dan a’i dîm am greu astudiaeth mor ddefnyddiol a manwl.

Ar y cyfan, rwyf yn falch iawn fod yr adolygiad yn dod i’r casgliad fod ein Gwasanaethau Tân ac Achub wedi mabwysiadu holl argymhellion yr Ymchwiliad Cyhoeddus, ac wedi rhoi’r mwyafrif ohonynt ar waith yn llawn. Mae hyn yn ei dro yn rhoi sicrwydd sylweddol i ni y byddai’r ymateb i ddigwyddiad tebyg yng Nghymru yn gyflym ac yn effeithiol. Fel y nodir yn adroddiad Dan, mae gwaith y Gwasanaethau Tân ac Achub hyd yma “wedi lleihau i raddau sylweddol y tebygolrwydd o wynebu canlyniadau mor drychinebus mewn digwyddiad yng Nghymru.” Hoffwn ddiolch i bawb sydd yn ymwneud â’r Gwasanaeth ac am eu hymdrechion i gyflawni hyn.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi sawl mater sy'n sail i ganfyddiadau'r Ymchwiliad Cyhoeddus, ac yn argymell gweithredu ar y rhain yn ogystal. Maent yn ymwneud â chanllawiau a hyfforddiant, ymarfer casglu gwybodaeth, sicrwydd gweithredol, a’r defnydd o gyfarpar anadlu. Mae’r materion hyn yr un mor bwysig er mwyn sicrhau safonau uchel parhaus wrth ymateb i argyfwng. Rwyf yn annog ein Gwasanaethau Tân ac Achub i ymateb iddynt yn llawn.