Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyflwynodd Biomass UK No.2 Ltd gais cynllunio i Gyngor Bro Morgannwg o dan Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (cyfeirnod 2017/01080/FUL). Ym mis Chwefror y llynedd gwnaethom ysgrifennu at y cwmni  i'w hysbysu ein bod am fynnu bod y cais yn ddarostyngedig i Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA). Rydym yn parhau i ystyried materion yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed.

Fel rhan o'r broses honno rydym wedi nodi ei bod yn bosibl bod Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 ("y Rheoliadau EIA") wedi cael eu torri mewn perthynas â chais cynllunio 2015/00031/OUT.

Rydym yn ymwybodol, os yw'r Rheoliadau EIA wedi cael eu torri, fod gennym ddyletswydd i gydweithredu o ddifri o dan Gyfraith Ewrop, sy'n ei gwneud yn ofynnol inni arfer unrhyw bwerau sydd gennym o dan gyfraith ddomestig i unioni unrhyw doriad mae'n bosibl ei fod wedi digwydd, os yw cymryd camau o'r fath yn gyfreithiol ac yn gymesur.

Ar hyn o bryd rydym archwilio opsiynau o dan gyfraith ddomestig i weithredu ynghylch y mater cyn gynted ag y bo modd. Rydym o’r farn y byddai llunio datganiad amgylcheddol ac ymgynghori yn ei gylch yn helpu i unioni unrhyw achosion o dorri’r Rheoliadau EIA. Bydd yr ymgynghoriad yn galluogi’r holl bartïon sydd â diddordeb ystyried a gwneud sylwadau ar ddogfen gynhwysfawr sengl – dogfen a fyddai’n adlewyrchu’r gofynion ar gyfer datganiadau amgylcheddol, fel y’u disgrifir yn y rheoliadau, sy’n gwneud yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn berthnasol i Gynllunio Tref a Gwlad. Byddai hyn yn sicrhau bod yr holl effeithiau amgylcheddol posibl a allai godi o’r datblygiad yn cael eu casglu a bod cymunedau’n cael y cyfle i ystyried ac ymateb i’r wybodaeth honno.