Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn sefydlu Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg ym maes Datblygu Economaidd a Gweinyddu Llywodraeth Leol. Bydd y Gweithgor yn ystyried materion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg a diwygio Llywodraeth Leol a godwyd wrth i’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 fynd drwy’r Cynulliad.  Mae rhain yn cynnwys sicrhau, wrth i’r broses o uno Awdurdorau Lleol fynd rhagddi:

  • bod arfer da o ran y defnydd o’r Gymraeg fel iaith gweinyddu o fewn Cynghorau yn parhau ac yn cael ei rannu
  • ein bod yn ystyried ac adnabod arfer da o fewn Llywodraeth Leol sydd yn cyfrannu at ffyniant cymunedau iaith Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o amgylch rôl Llywodraeth Leol yn cefnogi’r iaith Gymraeg o fewn gwead y gymdeithas drwy ei swyddogaethau datblygu economaidd.

Rwyf wedi gofyn i Rhodri Glyn Thomas AC i gadeirio’r Gweithgor. Bydd yn cynnwys hyd at chwech aelod ychwanegol y byddaf yn cyhoeddi eu henwau yn y dyfodol agos. Cylch gorchwyl y Gweithgor fydd canfod arferion da yn y meysydd a glustnodir a gwneud argymhellion ymarferol y gallwn weithredu arnynt drwy'r rhaglen diwygio Llywodraeth Leol. Bydd argymhellion y Gweithgor yn cyfrannu at ddrafftio canllawiau statudol ar gyfer Pwyllgorau Pontio a gallant arwain at gyfleoedd deddfwriaethol eraill.

O ystyried yr amserlen ar gyfer diwygio, mae'n hanfodol bod y Gweithgor yn gweithio'n gyflym er mwyn cyflwyno ei argymhellion terfynol erbyn diwedd mis Mai 2016, fel ei fod yn cael effaith lawn ar y rhaglen ddiwygio. Gwaith y Llywodraeth Cymru nesaf, a etholir ym mis Mai 2016, fydd gweithredu ar argymhellion y Gweithgor o fewn fframwaith ei gynigion ar gyfer diwygio Llywodraeth Leol.