Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 10 Rhagfyr, cyhoeddais fy mod yn sefydlu Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg ym maes Datblygu Economaidd a Gweinyddu Llywodraeth Leol, wedi’i gadeirio gan Rhodri Glyn Thomas AC.  Bydd y Gweithgor yn ystyried materion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg a diwygio Llywodraeth Leol.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi enwau aelodau’r Gweithgor, gan sicrhau’r cyfuniad iawn o sgiliau ac arbenigedd yn y maes hwn. Yr aelodau yw:

Chris Burns – Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Annwen Morgan – Prif Weithredwr Cynorthwyol, Cyngor Sir Ynys Môn
Dr Lowri Hughes – Prifysgol Bangor
Meic Raymant – Adran Gwasanaethau yr Iaith Gymraeg, Heddlu Gogledd Cymru
Carys Morgan – Yr Iaith Gymraeg a Chydraddoldeb, Cyngor Sir Ceredigion
Gwyneth Ayers – Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth, Cyngor Sir Caerfyrddin
Sarah Dafydd – Rheolwr Newid a Gwella Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rwy’n estyn diolch ymlaen llaw i’r Cadeirydd a’r aelodau am eu hymrwymiad ac edrychaf ymlaen at dderbyn argymhellion y Gweithgor maes o law.