Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais i’r Sefydliad Arweinyddiaeth Addysg Uwch ym mis Rhagfyr y llynedd fy mod yn bwriadu sefydlu gweithgor i edrych ar y posibiliadau o ran dysgu digidol ar-lein a sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r sector addysg uwch yn y maes hwn sy’n prysur dyfu.
Rwy’n falch iawn bod Andrew Green, Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, wedi cytuno i gadeirio’r gweithgor.    


Andrew Green yw Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ers 1998.  Treuliodd ei yrfa flaenorol mewn prifysgolion yng Nghymru a Lloegr, ac am sawl blwyddyn gwasanaethodd ar Gyngor Prifysgol Aberystwyth.  Yn 2011-12 roedd yn aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth, a argymhellodd sefydlu ‘Hwb’, y platfform dysgu i ysgolion a cholegau drwy Gymru gyfan.

Yr aelodau eraill fydd:

- Dr Dafydd Trystan 

 Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dr Dafydd Trystan yw Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Mae wedi arwain prosiectau dysgu ar-lein yn y Gwyddorau Cymdeithasol ar ran yr Academi Addysg Uwch ac mae’n weithgar wrth ddatblygu Y Porth, porthol e-ddysgu y Coleg Cymraeg sy’n cynnal modiwlau prifysgol cyfrwng Cymraeg a deunydd mynediad agored i wella dysgu drwy ddefnyddio technoleg.  Mae Dr Trystan hefyd yn cadeirio Menter Gymdeithasol ar Hyfforddiant Beicio, sef Hyfforddiant Beicio Cymru; ac mae’n aelod o fwrdd TooGoodToWaste a Sustrans Cymru.


- Dr Bela Arora 

 Coleg Graddedigion Casnewydd 

Mae Dr Bela Arora yn academydd ac yn rheolwr ym maes addysg uwch, sydd â phrofiad o ddarlithio, gwaith ymchwil a datblygu polisïau yn rhai o sefydliadau addysg uwch gorau Prydain.  Roedd yn gyfrifol am ddatblygu un o Dystysgrifau Ôl-raddedig ar-lein cyntaf Prydain ym maes Datblygu Arfer Proffesiynol mewn Addysg Uwch.  Mae Bela ar hyn o bryd yn goruchwylio’r profiad ymchwil ôl-raddedig yng Ngholeg Graddedigion Casnewydd ac mae’n Gadeirydd y Grŵp Ymchwil Addysgeg ar Ofodau Dysgu.


- Yr Athro Dylan Jones Evans

 Prifysgol Cymru

Mae yr Athro Dylan Jones-Evans yn Gyfarwyddwr Addysg Fenter ac Arloesi ym Mhrifysgol Cymru ac yn athro entrepreneuriaeth ar ymweliad ym Mhrifysgol Turku yn y Ffindir.  Ef yw sylfaenydd Fast Growth Fifty Cymru – y baromedr entrepreneuriaeth blynyddol ar gyfer busnesau yng Nghymru – ac mae ar hyn o bryd yn arwain adolygiad mawr o gyllid busnes i Lywodraeth Cymru.  


- Rob Humphreys

 Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru

Rob Humphreys yw Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, ac yn y gorffennol bu mewn swyddi ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn Gyfarwyddwr Cymru Sefydliad Cenedlaethol  Addysg Oedolion ac Addysg Barhaus.  Cafodd ei benodi gan y Gweinidog Addysg i’r cyntaf a’r ail ‘Adolygiad Rees’ ar gyllido addysg uwch ym mhrifysgolion Cymru.  Yn ddiweddarach, cafodd Rob ei benodi i’r Adolygiad Annibynnol o Addysg Uwch yng Nghymru, ac roedd yn gadeirydd yr adolygiad annibynnol o lywodraethu Addysg Bellach.  Mae ar hyn o bryd yn aelod o Gomisiwn Silk ar Ddatganoli.


- Yr Athro Patricia Price 

  Prifysgol Caerdydd

Mae yr Athro Patricia Price yn Ddirprwy Is-Ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd.  Mae’n gyfrifol am raglenni astudio y Brifysgol, ei safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyriwr.  Mae ei chyfrifoldebau penodol yn cynnwys goruchwylio’r broses o ddatblygu strategaeth addysg y Brifysgol, ei gweithredu a’i monitro; ansawdd profiad y myfyriwr yng Nghaerdydd; goruchwylio y Coleg Graddedigion y Brifysgol a gweithgareddau mynediad ehangach y Brifysgol.


-  Sarah Porter

  Pennaeth Arloesi y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (Jisc - y Pwyllgor Systemau  Gwybodaeth ar y Cyd blaenorol)

Mae Sarah Porter yn Bennaeth Arloesi Jisc.  Yn ei swydd bresennol, mae Sarah yn cynllunio ac yn arwain strategaeth arloesi Jisc sy’n cynorthwyo’r sector dysgu ar ôl oed gorfodol i groesawu’r potensial o weld TG yn gwella effeithiolrwydd dysgu, addysgu, ymchwil ac effeithiolrwydd sefydliadol.  Bu Sarah yn arwain agenda arloesi Jisc am wyth mlynedd, wedi cyfarwyddo ei raglenni e-ddysgu.  Cyn ymuno â Jisc, bu Sarah yn gweithio mewn prifysgolion, mewn swyddogaethau lleol a chenedlaethol.


- Jo Caulfield 

  Prifysgol Bangor; cyn bennaeth UCM Bangor 

Mae Jo Caulfield yn gweithio ym maes gwella dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar lais ac ymgysylltiad y myfyriwr.  Ei swydd flaenorol oedd Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor ac mae’n aelod o Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.  Mae Jo yn gweithio mewn partneriaeth ar hyn o bryd gydag adrannau academaidd ac undeb y myfyrwyr yn datblygu dulliau o wella dysgu ac addysgu sy’n benodol i ddisgyblaethau drwy gydweithio â myfyrwyr.

- David Jones

Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Glannau Dyfrdwy

Bu David yn arwain ar ddatblygu Coleg Glannau Dyfrdwy, sydd wedi cynnwys canlyniadau arolygu Gradd 1, a phroses uno lwyddiannus gyda Choleg Garddwriaeth Cymru yn 2009 a Choleg Llysfasi yn 2010.  Cafodd ei benodi’n ddiweddar yn Bennaeth/Prif Weithredwr (Dynodi) Coleg Cambria, y coleg newydd a gaiff ei ffurfio yn dilyn uno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl, Wrecsam ym mis Awst 2013.

Mae Prifysgolion Cymru eisoes yn rhan o ystod o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i fanteisio i’r eithaf ar y datblygiadau mewn technolegau dysgu.  Wrth geisio ymateb i’r newid diwylliannol yn nisgwyliadau myfyrwyr, mae prifysgolion yn awyddus i gysylltu drwy’r dulliau dysgu ar-lein diweddaraf.  Yn fyd-eang, mae cychwyn y MOOCiau (Massive Open Online Courses) yn dangos model newydd yn seiliedig ar y rhyngrwyd ar gyfer cynnwys niferoedd mawr ym maes addysg uwch. 

 
Nid yw mentrau o’r fath yn newydd – bu’r Brifysgol Agored yn cynnig deunydd o ffynhonnell agored am gryn amser.  Yn fy diweddar fodd bynnag, cafodd cyfres o fentrau MOOC eu lansio gan rai o’r sefydliadau academaidd byd-eang enwocaf fel Stanford, MiT a Harvard.  Mae Udacity a Coursera (sy’n cynnwys Prifysgol Caeredin) ymysg yr arloeswyr ar gyfer brand newydd o ddarparwyr addysg uwch ar-lein sydd am greu elw.  Mewn blwyddyn yn unig mae’r mentrau newydd wedi denu dros $100 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf mentrau preifat. Er bod rhywun yn amau cynaliadwyedd hirdymor mentrau o’r fath, mae’n bosib y bydd cyrhaeddiad ac ansawdd cynlluniau arloesol sy’n newid cymaint ar y sefyllfa yn arwain at oblygiadau mawr ym maes cyflenwi addysg uwch yng Nghymru.  Ar ddiwedd 2012 cyhoeddodd y Brifysgol Agored lansiad Futurelearn, gyda’r partneriaid yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, i gynhyrchu platfform yn y DU ar gyfer cyrsiau ar-lein agored enfawr.


Ein nod yw sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i barhau i ffynnu wrth wynebu’r fath ddatblygiadau.  Bydd gan y Gweithgor y gwaith o edrych ar y posibiliadau o ran MOOCau ac a yw sector addysg uwch Cymru wedi paratoi’n ddigonol i fodloni’r heriau hyn.   Rwy’n bwriadu i’w gylch gwaith fynd yn ehangach, fodd bynnag, i ystyried hefyd y cyfleoedd a’r heriau a ddaw o ddatblygu adnoddau addysgol agored yn ehangach.  


Cylch Gorchwyl y Gweithgor fydd rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar:  
fygythiad cystadleuol posibl y datblygiadau technolegol byd-eang i’r sector addysg uwch yng Nghymru;

  • y cyfleoedd posib o ganlyniad i’r datblygiadau technolegol ar gyfer y sector addysg uwch yng Nghymru mewn cyfnod o gyfyngu ar wariant cyhoeddus;  
  • i ba raddau y mae’r sector addysg uwch yng Nghymru yn gweithio ar y cyd i ddod ag arbedion maint i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig; ac 
  • i ba raddau y gall datblygiadau technolegol fod yn blatfform ar gyfer mwy o gyfraniad at addysg uwch rhan-amser a llawn-amser, eto mewn cyfnod o gyfyngu ar wariant cyhoeddus.  
Bydd y Grŵp yn dechrau ar ei waith ym mis Mawrth.  Rwyf wedi gofyn i Andrew Green adrodd yn ôl imi erbyn diwedd Medi eleni.