Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd y Gweithgor Llywodraeth Leol (y Gweithgor), dan gadeiryddiaeth Derek Vaughan ASE, ei sefydlu er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i weithio gyda'i gilydd i gytuno ar agenda ddiwygio er mwyn i lywodraeth leol allu darparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae'r Gweithgor yn rhoi cyfle i gael trafodaeth agored ar sut i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n ymwneud â gwella cynaliadwyedd gwasanaethau a strwythurau llywodraeth leol.

Mae'r grŵp yn defnyddio dulliau o weithio sy’n seiliedig ar barch cyffredin rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac hefyd y partneriaid eraill sy'n cyfrannu eu safbwyntiau ehangach at y drafodaeth.  Fodd bynnag, mae’n ddyletswydd ar bob parti i herio penderfyniadau, ac mae hyn yn rhan bwysig a defnyddiol o'r broses er mwyn sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau ar gyfer ein dinasyddion. Rydym yn cydnabod nad yw'r strwythurau a'r fframweithiau presennol ar gyfer darparu gwasanaethau yn gynaliadwy.  Ein cyfrifoldeb ni yw creu strwythurau a fydd yn gynaliadwy ac a fydd yn sicrhau atebolrwydd ar lefel leol a phroses ddemocrataidd o wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Gweithgor wedi ystyried nifer o faterion allweddol, megis y fframwaith ariannol a chynaliadwyedd gwasanaethau; cydwasanaethau arfaethedig a chydweithio; y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau; a phwerau ychwanegol a hyblygrwydd ar gyfer llywodraeth leol.  Mae'r Grŵp yn ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod adolygiadau blaenorol i lywodraeth leol a'r adborth o'r ymgynghoriadau ar y Papurau Gwyrdd a Gwyn diweddar. Yn arbennig, mae'r Grŵp yn ystyried yn llawn y safbwyntiau a gasglwyd o'r ymarferion ymgynghori cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf gan fod yr holl aelodau'n cytuno bod angen i farn dinasyddion helpu i lywio dyfodol gwasanaethau cyhoeddus.

Rwy'n frwd ynghylch sicrhau bod dinasyddion yn cymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ar faterion sy'n effeithio arnynt, a bod yn rhagweithiol yn nemocratiaeth ein gwlad.  Mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, byddwn yn ystyried nifer o faterion pwysig sy'n ymwneud â dinasyddiaeth weithgar, diwygio etholiadol ac amrywiaeth o fewn democratiaeth. 

Byddwn hefyd yn parhau i edrych ar gyfleoedd i gydweithio a strwythurau, gan gynnwys manteisio i'r eithaf ar weithio rhanbarthol a chyfleoedd ar gyfer cydwasanaethau, er mwyn sicrhau bod cydweithio'n digwydd mewn modd effeithiol ac yn helpu i arbed ar ein cyd-adnoddau prin.

Mae wedi bod yn werthfawr iawn cael ychwanegu safbwyntiau partneriaid eraill at y drafodaeth, er mwyn cael safbwyntiau o'r tu allan yn ogystal â safbwyntiau cydweithwyr ym maes llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cydweithwyr sy'n cynrychioli Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y sector gwirfoddol a'r undebau llafur yng Nghymru am eu hamser a'u hegni i'n helpu ni i wneud y mwyaf o'r cyfle hwn i drafod y materion a nodi'r ffyrdd mwyaf effeithiol o symud ymlaen gyda'n gilydd. 

Rwy'n ddiolchgar i Derek Vaughan, ASE, am gytuno i Gadeirio'r cyfarfodydd a helpu i lywio'r drafodaeth.  Mae Derek yn berson y gallwn oll ymddiried ynddo ac sy’n meddu ar y sgiliau i'n helpu i ganolbwyntio ar y materion pwysig sy'n gysylltiedig â llywodraeth leol yng Nghymru, a chael atebolrwydd clir ar gyfer cyflawni canlyniadau pendant er mwyn symud yr agenda ymlaen. 

Roedd fy nghydweithiwr yn y Cabinet, Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn bresennol yng nghyfarfod diwethaf y Gweithgor fel rhan o drafodaethau ar draws y Llywodraeth gyda llywodraeth leol. Cyflwynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) gynigion ar fframwaith arfaethedig ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau gwell trefniadau partneriaeth mewn perthynas â thrafodaeth am gyllid, ac mae swyddogion nawr yn edrych ymhellach ar fanylion y cynigion hynny. Ar yr un pryd, mae'n hanfodol bod unrhyw gynigion i ddiwygio yn ystyried y posibilrwydd real o gael llai o arian ar gyfer gwasanaethau yn y tymor canolig.

Mae'n bwysig edrych ar y Gweithgor Llywodraeth Leol yng nghyd-destun ehangach gweithio mewn partneriaeth, gan fod fforymau eraill yn bodoli megis Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol Cymru (y Cyngor Partneriaeth), sy'n gorff statudol. Yn ddiweddar, mae'r Cyngor Partneriaeth wedi trafod trawsnewid digidol ac wedi ymrwymo i nifer o brosiectau ar y cyd, a fydd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod manteision galluogrwydd digidol yn cael eu teimlo ar draws Cymru, yn hytrach nag o fewn awdurdodau unigol yn unig.  Mae nifer o syniadau diddorol yn cael eu hystyried, a allai gynnig manteision sylweddol i awdurdodau ledled Cymru.

Dyma gyfnod cyffrous i gydweithio ar faterion mor bwysig ledled Cymru, ac rwy'n falch o fod wedi gweld cydweithio ar y fath raddfa rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol er mwyn helpu i sicrhau bod yr arian sydd gennym yn cael yr effaith fwyaf posibl er budd ein pobl.