Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y cyhoeddwyd yn gynharach heddiw, mae adolygiad 21 diwrnod diweddaraf Llywodraeth Cymru wedi dod i gasgliad ar sut y caiff amddiffyniadau eu llacio’n raddol os byddwn yn parhau i weld gwelliannau yn sefyllfa iechyd y cyhoedd.

Fel y nodwyd yn fy natganiad ar 25 Ionawr, rwy’n cadarnhau heddiw y bydd ysgolion yn dychwelyd i ddefnyddio’r Fframwaith Penderfyniadau Reoli Heintiau Lleol erbyn dechrau’r hanner tymor newydd ar 28 Chwefror.

Mae’r fframwaith cenedlaethol yn gosod canllawiau clir i alluogi ysgolion i deilwra ymyriadau i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Bydd ysgolion yn cael eu cefnogi gan swyddogion iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol i sicrhau bod mesurau yn briodol ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r fframwaith hefyd yn cynnwys mesurau craidd a ddylai fod ar waith, waeth beth fo lefel y risg.

Fel rhan o’n dull gofalus, graddol a chynlluniedig o lacio cyfyngiadau er mwyn i ni flaenoriaethu dysgu, dylai ysgolion nodi’r pwyntiau allweddol canlynol wrth gynllunio ar gyfer yr hanner tymor newydd.

  • Rydym yn argymell yn gryf y dylai staff mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant, yn ogystal â dysgwyr oed uwchradd, ddefnyddio profion LFD ddwywaith yr wythnos. Nid yw’r cyngor hwn yn effeithio ar drefniadau ar gyfer y rhai a nodir fel cysylltiadau o achosion positif (yr ydym yn cynghori i ddefnyddio LFTs bob dydd am 7 diwrnod) neu’r rhai sydd â symptomau (a ddylai hunanynysu a threfnu prawf PCR cyn gynted â phosibl).
  • Rydym yn parhau i argymell yn gryf bod staff sy’n gweithio mewn ysgolion arbennig yn defnyddio profion LFD yn ddyddiol cyn mynd i’w gwaith. Rydym hefyd yn bwriadu lleihau y lefel hyn o brofi yn ystod yr hanner tymor nesa ond bydd hyn yn digwydd yn raddol ac yn cymryd i ystyriaeth amgylchiadau unigryw'r sector hwn.
  • O 28 Chwefror, dylai pob ysgol weithredu’r cyngor ar ddefnydd o orchuddion wyneb ar gyfer y lefel risg ‘Uchel’ fel y nodir yn y Fframwaith fel isafswm. Mae hyn yn golygu na fydd gorchuddion wyneb fel arfer yn cael eu hargymell mewn ystafelloedd dosbarth mwyach. Fodd bynnag, dylai dysgwyr oed uwchradd, staff ac ymwelwyr ym mhob ysgol wisgo gorchuddion wyneb wrth symud o gwmpas ardaloedd cymunedol dan do y tu allan i'r ystafell ddosbarth, megis coridorau, lle na ellir cynnal pellter corfforol. Os yw eu cyd-destun a chyngor lleol yn dangos bod angen gweithredu ar y lefel risg ‘Uchel iawn’, gall ysgolion barhau i argymell bod gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth gan staff a dysgwyr oed uwchradd.
  • Datgymhwyswyd y rheoliadau ynghylch amseroedd sesiynau ysgol dros dro o ddechrau Ionawr er mwyn caniatáu i ysgolion wneud newidiadau i'w hamseroedd sesiynau ysgol. Daw hyn i ben ar 18 Chwefror, a rhaid i ysgolion ddychwelyd i’w trefniadau arferol pan fydd dysgwyr yn dychwelyd ar ôl gwyliau hanner tymor.

Mae’r Fframwaith wedi’i ddiweddaru a’i gyhoeddi heddiw i adlewyrchu’r newidiadau hyn. Dylai ysgolion ddefnyddio’r wythnos nesaf i gynllunio a gweithredu newidiadau i drefniadau gweithredol a sicrhau bod dysgwyr a’u rhieni/gwarcheidwaid, yn ogystal ag aelodau staff, yn glir o’r newidiadau hyn ar gyfer y dychweliad ar ôl gwyliau’r hanner tymor. Byddwn yn parhau i adolygu ein cyngor yn rheolaidd.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb ar draws y gymuned addysg am bopeth y maent yn parhau i’w wneud i gynyddu dysgu i’r eithaf lleihau ar unrhyw darfu.